Rydym yn derbyn galw eithriadol o uchel am y Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith ar hyn o bryd, a bellach yn orlawn.
Ar hyn o bryd dim ond nifer cyfyngedig o apwyntiadau cofrestru newydd y gallwn eu cynnig. Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr yn nhrefn dyddiad pan fydd lle ar gael.
Cliciwch yma i gael manylion am gymorth arall a allai fod ar gael i chi.
Diolch am eich dealltwriaeth.
CYRSIAU HYFFORDDIANT LLESIANT
Mae ein gweithdai hyfforddiant poblogaidd yn cynnig y syniadaeth ddiweddaraf o ran meysydd pwnc llesiant allweddol ar gyfer rheolwyr a thimau. Mae’r sesiynau’n ymarferol ac addysgiadol, yn darparu syniadau ac adnoddau i lywio ac ysbrydoli.
Gallwch ddod o hyd i restr o’n cyrsiau i ddod ar ein tudalen Eventbrite yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu cwrs ar gyfer eich tîm yn unig, neu os hoffech raglen sydd yn bodloni eich anghenion chi, cysylltwch â ni heddiw.
Os rydych yn BBaCh (llai na 250 o weithwyr) yng Ngogledd, Gorllewin neu Dde Orllewin Cymru gall yr hyfforddiant hwn fod am ddim, cysylltwch â wellbeing@rcs-wales.co.uk i wirio cymhwysedd.