Rheoli Absenoldeb Salwch a Sgyrsiau Dychwelyd i’r Gwaith

Mae’r sesiwn hwn yn archwilio achosion ac effaith absenoldeb, ac yn archwilio amrywiaeth o strategaethau i atal a gostwng absenoldeb.

Gall absenoldeb gael effaith fawr ar gynhyrchiant, elw a morâl. Mae’r sesiwn hyn yn edrych ar amrywiaeth o sgiliau, dulliau a strategaethau i ostwng absenoldebau tymor byr. Mae hefyd yn edrych ar ffyrdd o gael sgwrs onest ac adeiladol gyda gweithwyr wrth iddynt ddychwelyd i’r gwaith.

Mae’r Cwrs hwn yn archwilio:

  • Achos a chost absenoldeb oherwydd salwch
  •  Lles fel rhan o’ch dull
  •  Technegau cyfathrebu cadarnhaol
  •  Defnyddio’r model MICE i ymdrin ag absenoldeb salwch

Mae’r cwrs yn cynnwys:

  • Pecyn Cymorth a Dangos y Ffordd
  • Tystysgrif am bresenoldeb ar y cwrs

Ffeithiau Allweddol

Hyd y cwrs: 2 awr
Pris Unigol: £80 y pen
Pris Grŵp: £475 i grŵp o hyd at 16 o fynychwyr.

Efallai y bydd costau dylunio ychwanegol ar gyfer cyrsiau pwrpasol. Byddwn yn trafod hyn gyda chi cyn y sesiwn.

Gallwch ddod o hyd i restr o’n cyrsiau i ddod ar ein tudalen Eventbrite yma. Os rydych yn BBaCh (llai na 250 o weithwyr) yng Ngogledd, Gorllewin neu Dde Orllewin Cymru gall yr hyfforddiant hwn fod am ddim, cysylltwch â wellbeing@rcs-wales.co.uk i wirio cymhwysedd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu cwrs ar gyfer eich tîm yn unig, neu os hoffech raglen sydd yn bodloni eich anghenion chi, cysylltwch â ni heddiw.