CYRSIAU HYFFORDDIANT LLESIANT
Mae ein gweithdai hyfforddiant poblogaidd yn cynnig y syniadaeth ddiweddaraf o ran meysydd pwnc llesiant allweddol. Rydym yn cynnig amrywiaeth gynhwysfawr o gyrsiau ar gyfer rheolwyr a thimau. Mae’r sesiynau’n ymarferol ac addysgiadol, yn darparu syniadau ac adnoddau i lywio ac ysbrydoli. Cliciwch yma i weld pryd y cynigir ein cyrsiau agored nesaf, neu cofrestrwch ar gyfer ein rhaglen Gweithio’n Dda er mwyn i ni ddarparu’r cyfan i’ch gweithlu’n uniongyrchol. Mae sesiynau’n para un i ddwy awr.
AR GYFER ARWEINWYR A RHEOLWYR BUSNES
IECHYD MEDDWL YN Y GWAITH
Byddwch yn meithrin gwytnwch, ymwybyddiaeth, ac yn adnabod pan mae aelodau tîm angen eich cefnogaeth.
GORUCHWYLIAETH A PHERFFORMIAD
Rheoli perfformiad ymarfer gorau sy’n gadarnhaol; yn cynnwys cyflwyno trafodaethau am lesiant i’r broses.
SGYRSIAU DYCHWELYD I'R GWAITH
Cefnogi gweithwyr wrth iddynt ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb neu ffyrlo, gan ganolbwyntio ar ddatrysiadau ac addasiadau.
RHEOLI STRAEN AC OSGOI LLOSGI ALLAN
Arwyddion o straen a beth sy’n ei achosi; trefnu ymyriadau cynnar a dod o hyd i ddatrysiadau i leihau straen yn eich gweithle.
ADEILADU GWEITHLE IACH
Llunio eich strategaeth llesiant yn seiliedig ar flaenoriaethau a chapasiti eich sefydliad ar gyfer y tymor byr, canolig a’r tymor hir.
CYFATHREBU EFFEITHIOL AR GYFER Y GWAITH
Sut i gyfathrebu gyda’ch timau i gynnal eu cymhelliant a’u diddordebau, a sicrhau eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi.
CYNLLUNIAU GWEITHREDU LLESIANT
Gall cynlluniau gweithredu llesiant fod yn offer defnyddiol i gefnogi llesiant gweithwyr, a chynnig ffordd ddi-stigma sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gefnogi gweithwyr i adnabod eu hanghenion llesiant a siarad amdanynt.
RHEOLI TIMAU DRWY NEWID
Rydym yn edrych ar fodelau i reoli newid effeithiol, a chyflwyno ffyrdd creadigol ac ymarferol i hyrwyddo cyfathrebu clir yn ystod cyfnodau o newid yn eich gweithle.
RHEOLI ABSENOLDEB SALWCH
Gall absenoldeb oherwydd salwch gael effaith fawr ar gynhyrchiant, elw ac ysbryd. Yn y sesiwn hon, edrychir ar amrywiaeth o offer, dulliau a strategaethau i leihau absenoldeb tymor byr a’i atal rhag dod yn broblem hirdymor.
AR GYFER GWEITHWYR UNIGOL A THIMAU
YMWYBYDDIAETH O IECHYD MEDDWL
Deall y materion allweddol yn ymwneud ag iechyd meddwl – sut i ddarparu cymorth cadarnhaol i gydweithwyr a helpu i gael gwared ar stigma.
YMDOPI Â STRAEN
Edrych ar yr arwyddion a symptomau o straen; Gwybod beth sydd ei angen arnom a gofyn am gymorth pan rydym mewn pwll o straen.
HYBU LLES CORFFOROL EICH TIMAU
Dysgu sut all cwsg, diet, ymarfer corff ac arferion gefnogi ein hiechyd corfforol a’n llesiant.
CYMHELLIANT A GWYTNWCH
Bod yn iach yn y gwaith: Helpu gweithwyr i fod yn gadarnhaol yn eu timau ac effeithiol yn eu swydd, yn ystod cyfnodau heriol.
MEDDWL CADARNHAOL AR GYFER Y GWEITHLE
Rydym yn edrych ar sut i ail-siapio ac ailgyfeirio ein patrymau meddwl yn negyddol a chreu mwy o dueddiadau meddwl yn gadarnhaol i gefnogi ein llesiant yn gyffredinol.
HYFFORDDIANT HYRWYDDWYR LLES YN Y GWAITH
Datblygwch eich sgiliau gwrando yn weithredol ac ystyriol, gweithgareddau atgyfeirio a chynllunio fydd yn hyrwyddo llesiant yn y gweithle.
HYFFORDDIANT YMWYBYDDIAETH MENOPOS
Codi ymwybyddiaeth am fenopos ac edrych ar ffyrdd y gallwn gefnogi aelodau ein tîm all fod yn profi symptomau.
CWSG
Edrych ar y wyddoniaeth a phwysigrwydd cwsg, ac edrych ar sut allwn siapio ein harferion, ein hamgylchedd a ffyrdd o feddwl i wella ansawdd ein cwsg.
BYW GYDA NEWID
Edrychwn ar y camau ar gyfer mabwysiadu newid a sut i addasu ein disgwyliadau presennol ac yn y dyfodol.

Gwasanaethau Cymorth yn y Gwaith
Ariennir y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, gan ddarparu cymorth gyda llesiant am ddim i fusnesau BBaCh yn Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd neu Sir Benfro. I ddeall sut allwn eich helpu chi neu eich busnes, ac i wirio eich cymhwystra:


Gwasanaethau Cymorth yn y Gwaith
Ariennir y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, gan ddarparu cymorth gyda llesiant am ddim i fusnesau BBaCh yn Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd neu Sir Benfro. I ddeall sut allwn eich helpu chi neu eich busnes, ac i wirio eich cymhwystra:
FFÔN: 01745 336442
E-BOST: hello@rcs-wales.co.uk