Eich Straeon

RYAN

Cefnogwyd Ryan Roberts, 22, o Abergele i gael gwaith drwy’r rhaglen Mi FEDRAF Gweithio ddechrau 2020.

Ar ôl astudio Datblygu Gemau yng Ngholeg Llandrillo Menai, dywedodd Ryan, sydd weithiau’n cael anawsterau gyda rheoli ei bryder, ei fod wedi ‘dod at faen tramgwydd’ wrth geisio camu mewn i’r byd gwaith.

“Roeddwn wedi ymgeisio am ddwsinau o swyddi ond nid oeddwn yn llwyddiannus nac yn cael unrhyw ymateb.

“Roeddwn wedi dod at faen tramgwydd. Roedd yn torri fy nghalon ac roeddwn yn meddwl pam nad oedd neb yn rhoi cyfle i mi.”

Yn benderfynol o wella ei nod o ddod o hyd i swydd a meddu ar sgiliau newydd, dechreuodd Ryan wirfoddoli gyda’r Crest Co-operative sydd wedi’i lleoli yng Nghyffordd Llandudno.

“Bu i mi gwblhau dros 100 awr o waith gwirfoddol ac roedd yn fy helpu i fagu hyder, dysgu sgiliau newydd a chael profiad mewn manwerthu a rheoli stoc.”

Yna cafodd Ryan ei gyfeirio at y rhaglen MI FEDRAF Weithio, lle cafodd gefnogaeth ddwys gan Lorraine Ann, Arbenigwr Cyflogaeth gyda Strategaeth Dinas y Rhyl, i ddod o hyd a pharatoi at waith cyflogedig addas.

Ym mis Ionawr, llwyddodd i gael swydd gyda Chymdeithas Cyfeillion yn Ysbyty Glan Clwyd ar gytundeb parhaol 20 awr yr wythnos. Mae wedi parhau i gael cefnogaeth gan y rhaglen Mi FEDRAF Gweithio trwy gydol ei gyflogaeth.

Dywedodd Ryan:

“Edrychom ar wahanol swyddi y gallaf ymgeisio amdanynt ar sail yr hyn yr hoffwn ei wneud a’r hyn y gallaf ei wneud, gyda fy sgiliau a fy mhrofiad. Cefais fy nghefnogi i wneud cwrs rheoli pryder hefyd, sydd wedi fy helpu’n fawr iawn.

“Cefais nifer o gyfweliadau ffug hefyd i fy helpu i baratoi at fy nghyfweliadau. O ganlyniad roeddwn yn teimlo fy mod wedi paratoi yn dda ac roedd yn helpu gyda fy mhryder.

“Mae fy mhrif ddyletswyddau’n cynnwys sicrhau bod yna ddigon o stoc, gwneud archebion a helpu o ran cynnal y bar te.

“Rwyf wir yn mwynhau’r swydd a’r drefn y mae wedi’i roi i mi. Mae bod mewn gwaith wedi fy ngwneud yn fwy hyderus ac wedi rhoi rhywbeth i mi edrych ymlaen ato bob dydd. Rwy’n cyfarfod pobl newydd yn fy ngwaith bob dydd, sy’n gyffrous.”

DANIEL

Roedd Daniel Davies, cogydd hyfforddedig 27 oed o Brestatyn, yn profi pryder a hwyliau isel o achos treulio pum mis heb waith, ar ôl i achos o fwlio mewn swydd flaenorol effeithio ar ei iechyd meddwl. Cymerodd ei fywyd dro newydd pan gyfeiriodd y ganolfan waith ef at RCS, lle’r oedd arbenigwr cyflogaeth Mi FEDRAF Gweithio ymroddedig wedi’i helpu i ddod o hyd i waith gyda’r tîm arlwyo yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd:

“Cafodd fy hyder a’m pryder eu dinistrio ar ôl derbyn sawl cnoc ac roeddwn i’n teimlo fel rhoi’r gorau iddi. Ond roedd fy arbenigwr cyflogaeth Mi FEDRAF Gweithio yn anhygoel ac yn helpu i hybu fy hunan-barch drwy fy anfon ar gwrs hybu hyder.

Roedd hi’n rhagweithiol iawn ac yn deall pa fath o waith fyddai’n addas i mi, yn hytrach na’m gwthio tuag at unrhyw hen swydd.”

Cymerodd Daniel y rôl yn Ysbyty Glan Clwyd yn gweithio ar wardiau Covid-19 ychydig cyn y cyfnod clo ym mis Mawrth. Cyn hir, roedd wedi dal yr haint ei hun. Ond ar ôl “wythnosau gwaethaf” ei fywyd yn ymladd y salwch, dychwelodd i’r gwaith am ei fod yn dweud ei fod “yn rhoi pwrpas iddo.”

“Mae’r rhaglen wedi helpu i roi rhagolygon mwy cadarnhaol i mi ar fywyd. Dwi wedi dechrau gwneud ymarfer corff ac wedi dechrau mwynhau a gofalu amdanaf fy hun eto. Rwy’n credu y gall Mi FEDRAF Gweithio helpu pobl, waeth beth yw eu problemau.”

RHIAN

Wnaeth ‘Rhian’ hunan-gyfeirio i’r prosiect Mi FEDRAF Gweithio yn dilyn nifer o anawsterau yn ei waith oedd yn cael effaith niweidiol ar ei iechyd meddwl.

Roedd hi wedi bod yn gweithio yn yr un swydd am amser hir, ond o fewn cyfnod o 18 mis roedd hi wedi cael sawl profiad negyddol gyda’i reolaeth oedd wedi arwain ati hi’n cael ei lofnodi  o’r gwaith oherwydd straen yn gysylltiedig â gwaith ac nid oedd hi’n teimlo ei fod yn gallu dychwelyd. Mynegodd hi ei fod eisiau cefnogaeth i ddatrys y sefyllfa fel ei fod yn gallu dychwelyd i’r gwaith yr oedd hi wrth ei fodd yn gwneud.

Un o’r prif rwystrau roedd ‘Rhian’ yn wynebu oedd diffyg cyswllt gan ei gyflogwr oedd yn cynyddu ei bryder a straen. Cynhaliwyd cyfarfod ar y cyd a gafodd cynllun i roi mewn lle i helpu sicrhau bod ‘Rhian’ yn cael ei adleoli fel bod hi’n gallu cwblhau shifftiau oedd yn fwy addas i anghenion hi.

Dros gyfnod o ddau fis, roedd yna gyswllt a chefnogaeth gyfyngedig gan ei gyflogwr er y galwadau ffôn a’r ebyst oedd yn cael ei anfon. Penderfynodd ‘Rhian’ i estyn allan at ei undeb am gefnogaeth. Mynychodd ‘Rhian’ gyfarfod gyda ei reolaeth a gofynnodd hi iddynt gychwyn y gweithdrefnau i adleoli hi, cytunwyd bod hwn am ddigwydd.

Dros fis yn ddiweddarach a hyd yn oed gyda chyfranogiad Mi FEDRAF Gweithio, doedd yna ddim arwydd bod y broses i adleoli ‘Rhian’ wedi cychwyn. Wedyn penderfynodd Mi FEDRAF Weithio gysylltu hefo’r sefydliad oedd ‘Rhian’ i fod i gael ei adleoli i a’r rheolaeth uwch yn uniongyrchol am gyngor ac roeddem ni wedi cael gwybod bod nhw heb wedi derbyn unrhyw wybodaeth gan cyflogwr ‘Rhian’ ac felly doedd yna ddim cofnod bod nhw wedi cychwyn ei adleoliad. Achosodd hwn straen pellach i ‘Rhian’ a dychwelodd hi yn ôl i’r GP er mwyn derbyn nodyn salwch estynedig.

Yn dilyn 2 wythnos bellach o alwadau ffôn ac ebyst, cafodd Mi FEDRAF Gweithio gwybod bod ‘Rhian’ am gael ei adleoli.

Rŵan mae ‘Rhian’ wedi’i adleoli’n llwyddiannus ac yn gweithio mewn lleoliadau ac amseroedd mae hi eisiau ac mae hi yn llawer hapusach. Pan ofynnwyd am ei brofiad diweddar gyda Mi FEDRAF Weithio, meddai:

 Roedd gennai pob dim yn fy erbyn, fy mhenaethiaid, fy oedran a diffyg cefnogaeth gan fy undeb a fy mhroblem fwyaf oedd cael rhywun i gredu fi a sut oedd o’n gwneud i mi deimlo. Roeddech chi yn fy nghredu, a byddai o hyd yn ddiolchgar. Diolch i chi ac Mi FEDRAI Weithio, mae fy mywyd wedi troi rownd yn llwyr er gwell.’

DARRELL

Dyma Darrell. Roedd yn ddi-waith ac mewn twll. Ond o fewn ychydig wythnosau, roedd yn gwirfoddoli, ac wythnosau’n ddiweddarach, yn ystod cychwyn argyfwng COVID, cafodd gynnig swydd â thal. Sut y bu iddo newid y sefyllfa?

Derbyniodd Darrell gymorth am ddim gan y tîm ‘Mi FEDRAF Gweithio‘. Mae’n cydnabod, “Mae’n anodd pan rydych allan o waith oherwydd rydych yn mynd i feddwl mewn ffordd negyddol. Mae fy mhrofiad gyda Mi FEDRAF Gweithio wedi rhoi syniad gwell i mi o beth rwyf eisiau ei wneud. Roeddwn yn teimlo ar goll ac yn troi yn fy unman o’r blaen. Mae’n hynod fanteisiol cael pwynt cyswllt, rhywun i’ch cadw chi ar ben ffordd a chynnig cymorth i chi.”

Mae Mi FEDRAF Gweithio yn helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith er mwyn cefnogi eu gwellhad a gwella eu llesiant. Mae’r rhaglen, y cyntaf o’i math yng Nghymru, yn cael ei darparu gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mewn partneriaeth ag elusen, CAIS, a Strategaeth Dinas y Rhyl, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Derbyniodd Darrell gyngor yn ystod y broses ymgeisio, gan gychwyn gyda chymhelliant i ymgeisio ar gyfer gwirfoddoli’n gyntaf ac wedyn am swydd.

“Bu i fy nghyswllt allweddol yn Mi FEDRAF Gweithio fy annog ar hyd y daith, gan nad oeddwn wedi bod mewn gwaith am amser, ac roeddwn angen hwb hyder a chyfeiriad“.

O ran cyngor y byddai’n ei rannu ag eraill, mae Darrell yn dweud, “Os nad ydych yn gweithio, mae Mi FEDRAF Gweithio yn wasanaeth defnyddiol i gael awgrymiadau a chymhelliant i ymgeisio am swyddi gwahanol.” Nawr, mae gan Darrell syniad fwy clir o’r cyfeiriad mae eisiau ei ddilyn; yn ogystal, bu iddo sylwi nad oedd y rôl â thâl yn addas iddo, a magodd yr hyder i’w gwrthod. Ar hyn o bryd mae’n cael ei gefnogi gan ICW i ymgeisio ar gyfer swyddi eraill. “Mae ICW wedi fy helpu i ddeall beth rwyf eisiau ei wneud. Mae’n wasanaeth arbennig iawn. Pe na fyddwn wedi derbyn cymorth, byddwn yn dal i chwilio, a nawr gallaf ddefnyddio fy mhrofiad fel pwynt trafod a thystiolaeth mewn cyfweliadau.”

ELISCE

Mynd y tu hwnt i’r gofyn

Siaradais ag Elisce ar y ffôn ar fore Gwener tywyll. Roedd hi’n frwdfrydig a hyderus. Roedd ei llais yn gryf ac roedd ganddi lawer o bethau positif i’w dweud am ei sefyllfa. Nid oedd hyn yn wir bob amser. Mae Elisce wedi goresgyn problemau gorbryder a hyder i gyrraedd y pwynt hwn. Mae’r cymorth y mae hi wedi ei dderbyn gan gynllun ‘Mi FEDRAF Gweithio ‘ wedi bod yn hanfodol ar lefel ymarferol yn ogystal â chymorth emosiynol.

“Bu iddynt fy helpu i gael cyfweliad, ac yna fy ngyrru i Lerpwl am hyfforddiant. Dyna’r tro cyntaf i mi fod i ffwrdd o adref, ac roeddwn ar fy mhen fy hun, mewn ystafell westy yng nghanol dinas gyda phobl estron. Ond roedd fy nghyswllt allweddol yn Mi FEDRAF Gweithio ar ben arall y ffôn bob amser. Nid oeddwn ar fy mhen fy hun. Bu iddi roi tawelwch meddwl a hyder i mi. Roedd gennyf wastad rhywun i gysylltu ag o, dros y ffôn neu e-bost, pe byddwn ei angen.”

Mae Elisce bellach yn gweithio i gwmni telathrebu, mewn rôl weinyddol mewn swyddfa. Mae hi’n hoff o’r tîm mae hi’n gweithio â nhw, ac yn fwy nag abl o wneud ei swydd. Roedd hi’n anhapus yn ei chwmni blaenorol, a bu i’w chwnselydd ar y pryd ei chyfeirio at Mi FEDRAF Gweithio . Dywedodd ei bod wedi synnu pa mor gyflym y sefydlwyd y broses, a chafodd ei phlesio gyda’r bobl y bu iddi eu cyfarfod yn Mi FEDRAF Gweithio . “Roedd bob un ohonynt yn gwybod sut i’ch cefnogi chi yn y ffordd gywir. Siaradais lawer yn ein cyfarfod cyntaf, roedden nhw eisiau deall fy nghefndir a fy adnabod fel person; bu iddynt roi ystyriaeth i fy mhrofiad.” Nawr, mae RCS yn sefydlu cwnsela am ddim ar gyfer Elisce y tu allan i waith, i barhau i adeiladu ei hunan-hyder a goresgyn ei gorbryder.

“Mae’r cymorth rwy’n ei dderbyn gan fy nghyswllt allweddol yn RCS yn wych. Nid yw hi’n gwneud dim o’i le. Mae hi wastad yno i mi. Diolch.”

TERRI

Gwell hunan-hyder

Roedd Terri yn dioddef gyda gorbryder ac iselder, a gwyddai y byddai mynd nôl at waith yn ei helpu, ond bu i bandemig coronafeirws gychwyn ac roedd yn teimlo’n adeg heriol i fod yn chwilio am waith. Ar ôl bod yn ddi-waith am 6 mis, roedd Terri eisiau swydd rhan amser i gamu’n ôl i’r gweithle’n esmwyth, gan iddo golli ei swydd flaenorol ar ôl treulio 20 mlynedd ynddi.

“Bu i fy ngweithiwr allweddol yn Mi FEDRAF Gweithio fy helpu i greu CV oedd yn benodol ar gyfer y swyddi roeddwn yn ymgeisio amdanyn nhw. Ymgeisiais am yr un swydd ddwywaith yn flaenorol ond ni chefais lwyddiant. Rwy’n credu’n gryf bod CV fwy penodol wedi fy helpu i sicrhau’r swydd”

Roedd Terri yn eithaf pryderus am reoli yn y gwaith, ond yn cael tawelwch meddwl yn y ffaith bod ei gweithiwr allweddol ar ben arall y ffôn, ac y byddai’n cysylltu’n rheolaidd i ddarparu cymorth parhaus.

 “Mae’r swydd wedi rhoi synnwyr o bwrpas i mi ac mae’n teimlo’n dda cael ennill fy arian fy hun. Mae fy hunan-hyder yn well y rhan fwyaf o’r amser, er fy mod yn dal i gael dyddiau isel. Teimlaf, heb help, na fyddwn wedi mynd i fewn i waith, ac ni allaf ddiolch digon i Mi FEDRAF Gweithio , am bob dim”

SANDRA

Sandra yn Camu Ymlaen

“Mae wedi bod yn rhyfeddol. Yr ymrwymiad, y ddealltwriaeth, a’r anogaeth barhaus. Ni allaf ganu clodydd MI FEDRAF Weithio ddigon. Y ffordd rwy’n cael fy annog i weld fy mhotensial a symud ymlaen. Rwy’n ddyslecsig a chefais help gyda fy CV. Llwyddasom i dynnu sylw at y sgiliau sydd gennyf, a minnau heb sylwi arnynt o’r blaen. Ni allaf ddiolch digon iddynt. Diolch am aros gyda mi”

Mae Sandra wedi cael ei chefnogi gan gynllun MI FEDRAF Weithio am y 12 mis diwethaf. Mae ganddi MSc mewn Cwnsela o Brifysgol Bangor, a datblygodd raglen newid dirnadaeth steps4ward, sy’n cyfuno gwybodaeth academaidd gyda phrofiadau bywyd. Mae hi wedi bod yn brysur yn gweithio mewn swyddi dros dro tra’n chwilio am swydd ym myd iechyd meddwl a chwnsela, fydd yn gofyn iddi ddefnyddio’r sgiliau o’i gradd Meistr. Mae’n gobeithio y bydd gwneud ei phrawf gyrru yn gynnar flwyddyn nesaf yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran y swyddi y gall ymgeisio amdanynt ar draws Gogledd Cymru.

O ran y cyngor y byddai’n ei roi i bobl all fod yn ystyried cysylltu â MI FEDRAF Weithio, dywedodd Sandra, “Defnyddiwch y cymorth cyn gynted â phosib. Mae’n fwy na dod o hyd i swydd, mae’n tynnu’ch sylw at yr hyn rydych yn ei wneud yn dda, rhoi hwb i’ch hyder a chynyddu eich teimlad o hunanwerth. Mae’n dangos i chi bod eich set sgiliau’n cael ei werthfawrogi, a’ch bod chi’n gallu gwneud gwahaniaeth; gan eich helpu chi i gredu y gallwch fynd yn eich blaen, ar ôl cyfnod o deimlo’n anhyderus.”