Cwnsela Cyn Cyflogaeth Conwy
Adroddiad Effaith
Ionawr i Rhagfyr 2022
Treialodd RCS wasanaeth i ddarparu cwnsela tymor byr sy’n canolbwyntio ar waith a/neu hyfforddiant gyrfa i gefnogi pobl i oresgyn rhwystrau iechyd meddwl rhag cyflogaeth. Y bwriad oedd llenwi bwlch yn y ddarpariaeth ar adeg o angen cynyddol. Roedd y gwasanaeth wedi’i dargedu at bobl a oedd yn ddi-waith, yn segur yn economaidd neu yr oedd eu cyflogaeth mewn perygl oherwydd cyflwr iechyd meddwl.
Roedd y rhaglen yn rhan o Raglen Sgiliau a Chyflogadwyedd Cyngor Conwy, a ariannwyd drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.
Lansiodd RCS y gwasanaeth cwnsela cyn cyflogaeth newydd yng ngwanwyn 2022. Darparwyd y cymorth gan ddau gwnselydd mewnol RCS a phedwar cwnselydd sesiynol. Roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr wedi’u hatgyfeirio o feysydd eraill Rhaglen Sgiliau a Chyflogadwyedd Conwy, er mwyn cael cymorth gyda chyflyrau iechyd a oedd yn effeithio ar eu gallu i ymgysylltu â chymorth cyflogadwyedd ehangach.
Cefnogodd y gwasanaeth cwnsela newydd 50 o unigolion rhwng Ionawr a Rhagfyr 2022. Mynegodd 13 o ymgeiswyr ychwanegol ddiddordeb yn y gwasanaeth ond dewisasant beidio â chwblhau eu cofrestriad.
Cynigiom ystod o gymorth therapiwtig, gan gynnwys:
• Cwnsela yn Canolbwyntio ar Unigolyn
• Therapi Gwybyddol Ymddygiadol
• Hyfforddiant Gyrfa
Cafodd y cyfranogwyr hyd at 6 sesiwn a chafodd yr ymyriadau eu cyflwyno mewn dull cymysg a oedd yn cynnwys cymorth wyneb yn wyneb a thros y ffôn/ar-lein. Darparwyd cefnogaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ôl dewis y cleient. Derbyniodd y cyfranogwyr hyd at chwe sesiwn o gwnsela, neu bedair sesiwn o hyfforddiant gyrfa, beth bynnag a oedd yn gweddu orau i’w hanghenion.
Defnyddiwyd offer achrededig i fesur gwelliannau mewn iechyd a chyflogadwyedd.
Rhwystrau Allweddol i Gleientiaid
Soniodd y cyfranogwyr am y rhwystrau ychwanegol canlynol i gyflogaeth:
- Problemau dyled – incwm isel, caethiwed i gamblo neu siopa
- Camddefnyddio sylweddau
- Trafnidiaeth – diffyg trafnidiaeth, methu teithio i gyfweliadau
- Tai – llety anaddas
- Cymdeithasol – diffyg cyswllt cymdeithasol, tor-perthynas, anghytuno yn y teulu, teimlo’n anniogel oherwydd cyn-bartneriaid neu aelodau o’r teulu
- Gwaith – profiadau negyddol blaenorol o waith
- Cofnod troseddol – atal mynediad i swyddi, stigma
- Tangyflawni addysgol – diffyg sgiliau/cymwysterau
- Allgáu digidol – dim mynediad i’r rhyngrwyd, dim arian ar gyfer dyfais neu ddata.
Pan oedd y cyfranogwyr yn cytuno, cawsant eu cyfeirio at sefydliadau eraill a allai ddarparu cymorth i fynd i’r afael â’r materion ehangach hyn.
Effaith a GwaddolI
Llwyddodd y gwasanaeth i gyflawni ei amcanion.
- Ymgysylltodd â’r nifer targed o gyfranogwyr, a chwblhaodd pob cyfranogwr cofrestredig ymyrraeth therapiwtig.
- Mewn arolygon ôl-ymyrraeth, dywedodd 84% o gyfranogwyr fod eu hiechyd a’u gallu i weithio wedi gwella o ganlyniad i’r ymyrraeth.
- Dangosodd 46% o gyfranogwyr welliannau mesuradwy yn eu cyflwr iechyd meddwl mewn asesiadau CORE10 / PHQ-9.
Bydd RCS yn archwilio ffyrdd o adeiladu ar lwyddiant y rhaglen i sicrhau gwaddol cadarnhaol, gan ddarparu cymorth therapiwtig i helpu pobl i fynd i’r afael â rhwystrau iechyd meddwl rhag cyflogaeth.


Adborth Cleientiaid
“Roedd Andrew mor ddi-gynnwrf ac yn llawn cydymdeimlad a rhoddodd y wybodaeth roeddwn ei hangen i helpu fy hun”
“Mae Andrew yn gwnselydd rhagorol, yn caniatáu i rywun siarad yn ei amser ei hun. Teimlwn ei fod yno gyda mi bob amser, yn rhoi dewisiadau cadarnhaol i mi ond yn bennaf oll yn fy nghaniatáu i mi eu gwneud.”
“Rhoddodd ddigon o amser i mi wneud newidiadau cadarnhaol”
“Fe helpodd i mi ddychwelyd i’r byd gwaith ar ôl blwyddyn o salwch meddwl.”
“Daliwch ati i wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud – rydych chi’n gwneud gwaith gwych”
“Rwy’n ôl ar y trywydd iawn ac yn gallu ymdopi.”