Iechyd Meddwl ar gyfer Lles Ariannol
Sesiwn 2 awr
Mae llawer ohonom yn poeni am effaith y cynnydd mewn costau byw. Gan ddefnyddio pethau a ddysgwyd o seicoleg gadarnhaol a therapi ymddygiad gwybyddol (CBT), byddwch yn derbyn awgrymiadau defnyddiol am reoli pryder a gor-bryder mewn perthynas â’r sefyllfa ariannol bresennol.
Rydym yn archwilio hyn:
- Deall ein perthynas gydag arian
- Y berthynas rhwng arian a hapusrwydd
Awgrymiadau ymarferol a chyflym i’n helpu i ymdrin â straen a phryder.
Gallwch ddod o hyd i restr o’n cyrsiau i ddod ar ein tudalen Eventbrite yma. Os rydych yn BBaCh (llai na 250 o weithwyr) yng Ngogledd, Gorllewin neu Dde Orllewin Cymru gall yr hyfforddiant hwn fod am ddim, cysylltwch â wellbeing@rcs-wales.co.uk i wirio cymhwysedd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu cwrs ar gyfer eich tîm yn unig, neu os hoffech raglen sydd yn bodloni eich anghenion chi, cysylltwch â ni heddiw.