YNGLŶN Â RCS

Mae RCS yn fenter gymdeithasol yng Ngogledd Cymru. Ers dechrau’r fenter yn 2007 dan enw ‘Rhyl City Strategy’, mae gwerth llesiant ein heffaith gymdeithasol wedi mynd y tu hwnt i £40 miliwn. Rydym yn cyflogi tîm o 30 aelod staff ymroddedig sy’n darparu ein gwasanaethau proffesiynol, arbenigol ledled Cymru.

Rydym yn gweithio ym mhob cwr o Gymru yn adeiladu partneriaethau er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol a phwrpasol sy’n ychwanegu gwerth. Ymhlith ein partneriaid allweddol mae Llywodraeth Cymru, DWP a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae llesiant wrth galon ein cenhadaeth; cyfrannu at lesiant unigol, economaidd a chymdeithasol drwy helpu mwy o bobl i gael gwaith, aros mewn gwaith a ffynnu yn eu gwaith.

Rydym yn cynnig hyfforddiant a chymorth i sefydliadau a busnesu i’ch helpu chi wella llesiant eich timau a gweld eich busnes yn ffynnu.

Mae ein dull gweithredu’n seiliedig ar gyfres o werthoedd allweddol:

Cysylltu

Ymateb yn greadigol ac yn hyblyg i anghenion a nodwyd

Grymuso

Helpu pobl i greu’r cysylltiadau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu a ffynnu yn y gwaith

Arloesi

Darparu cymorth sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n grymuso er mwyn creu dyfodol cadarnhaol i bobl a lleoedd