Cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Mae ein cwrs hyfforddiant, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru, yn darparu arweiniad a chymorth arbenigol i chi i gydnabod a chefnogi anghenion iechyd meddwl y bobl o’ch cwmpas, fel ffrindiau, aelodau teulu a chydweithwyr.

Mae’r cwrs hwn wedi’i ardystio gan Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru.

Gellir cyflwyno’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, ar-lein neu yn eich gweithle. Gellir darparu’r cwrs dysgu wyth awr mewn diwrnod, neu ar ffurf dau sesiwn hanner diwrnod, yn ôl yr hyn sydd orau gennych chi.

Bydd y cwrs yn:

• Archwilio beth mae Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (CCIM) yn ei wneud, neu ddim yn ei wneud
• Egluro rôl a chyfrifoldebau Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
• Darparu cyflwyniad i iechyd meddwl a rhai o’r heriau o ran llesiant
• Cyflwyno Cynllun Gweithredu CCIM a sut i’w roi ar waith
• Helpu cynrychiolwyr i ddatblygu sgiliau o ran gwrando empathig a gweithredol

I gael manylion am ddyddiadau cyrsiau sydd i ddod, edrychwch ar Eventbrite yma , neu llenwch ein e-ffurflen atgyfeirio neu gofynnwch inni eich ffonio’n ôl i gael gwybodaeth am gynnal cwrs ar gyfer eich tîm.

Gallwch ddod o hyd i restr o’n cyrsiau i ddod ar ein tudalen Eventbrite yma. Os rydych yn BBaCh (llai na 250 o weithwyr) yng Ngogledd, Gorllewin neu Dde Orllewin Cymru gall yr hyfforddiant hwn fod am ddim, cysylltwch â wellbeing@rcs-wales.co.uk i wirio cymhwysedd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu cwrs ar gyfer eich tîm yn unig, neu os hoffech raglen sydd yn bodloni eich anghenion chi, cysylltwch â ni heddiw.