Mae RCS yn darparu cymorth, hyfforddiant a therapïau i helpu pobl a busnesau ledled Cymru i wella eu llesiant ar gyfer eu gwaith. Rydym yn gwmni nid er elw sydd wedi ennill amrywiaeth o wobrau, ac rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau o ansawdd sy’n trawsnewid miloedd o fywydau yn flynyddol.

Mae RCS yn darparu cymorth, hyfforddiant a therapïau i helpu pobl a busnesau ledled Cymru i wella eu llesiant ar gyfer eu gwaith. Rydym yn gwmni nid er elw sydd wedi ennill amrywiaeth o wobrau, ac rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau o ansawdd sy’n trawsnewid miloedd o fywydau yn flynyddol.

EICH LLESIANT YN Y GWAITH

A yw problemau iechyd yn effeithio arnoch yn y gwaith?
Gall ymyrraeth gynnar helpu i leihau neu atal absenoldeb oherwydd salwch. Rydym yn cynnig therapïau a chymorth un-i-un cyflym er mwyn eich cael chi’n ôl ar eich traed.

GOFALU AM EICH STAFF

Gwella llesiant eich tîm!
Mae bod yn agored ynghylch llesiant yn y gwaith yn dda i’ch busnes. Rydym yn cynnig cymorth, anogaeth a hyfforddiant er mwyn helpu cwmnïau i adeiladu gweithleoedd hapusach ac iachach.

EICH CEFNOGI CHI I MEWN I WAITH

Angen cymorth i ddod o hyd i’r swydd gywir?
Rydyn ni’n credu bod gwaith da yn fuddiol ar gyfer eich iechyd a’ch llesiant. Mae ein cymorth arbenigol yn helpu pobl ag anghenion iechyd meddwl i wella eu llesiant yn gyffredinol drwy ddod o hyd i swydd addas, a’i chadw.

CYSYLLTWCH

I ddeall mwy am ein gwaith, neu i atgyfeirio eich hun i unrhyw rai o’n gwasanaethau,
ffoniwch ni ar 01745 336442 neu anfonwch neges e-bost at hello@rcs-wales.co.uk

Yn 2020-22, gwnaethom:

GEFNOGI

o weithwyr i wella eu llesiant yn y gwaith

HYFFORDDI

o reolwyr ynghylch materion llesiant

HELPU

o bobl gydag anghenion iechyd meddwl i ddod o hyd i waith

Dechreuodd y therapi cwnsela o fewn wythnos a chefais y 6 sesiwn gyntaf am ddim. Roedd gallu cyrraedd gwraidd y broblem mor gyflym a’i datrys yn teimlo fel achubiaeth i mi. Roedd haul ar fryn eto, roedd yn wych. Roeddwn i’n teimlo fod rhywun yn gwrando arnaf fi.

Cleient Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith

Roeddwn yn hoff o’r strwythur ar gyfer timau ac arweinwyr timau, ond eto roedd yn berthnasol i bob un ohonom gan ein bod ni’n gallu siarad am lesiant staff gyda chydweithwyr a rheolwyr. Mae’n wych ar gyfer datblygiad staff.

Mynychwr Gweminar

Mae wedi bod yn rhyfeddol. Y ffordd rwy’n cael fy annog i gyflawni hyd eithaf fy ngallu a symud ymlaen. Llwyddasom i dynnu sylw at y sgiliau sydd gennyf, a minnau heb sylwi arnynt o’r blaen. Ni allaf ddiolch digon i RCS.

Cyfranogwr Mi Fedraf Weithio