Hunanofal i’r Hunangyflogedig
Nod y gweithdy 2 awr yma yw rhoi’r sgiliau i unigolion hunangyflogedig gyda strategaethau a sgiliau ymarferol i wella eu lles, rheoli straen, a sicrhau cydbwysedd bywyd-gwaith iach.
Bydd y cyfranogwyr yn dysgu am bwysigrwydd hunanofal, yn adnabod heriau cyffredin a wynebir gan bobl hunangyflogedig, ac yn archwilio arferion hunanofal effeithiol y gellir eu cynnwys yn eu harferion pob dydd.
Byddwn yn archwilio:
- Pa mor bwysig yw blaenoriaethu hunanofal, yn enwedig os ydych yn hunangyflogedig
- Heriau cyffredin a wynebir gan bobl sy’n hunangyflogedig
- Rhywfaint o hunan-fyfyrio i’ch helpu i adnabod y pethau sy’n rhoi straen arnoch neu’n creu heriau i chi
- Agweddau corfforol, emosiynol, meddyliol a chymdeithasol hunanofal
- Rheoli amser i’ch helpu i integreiddio hunanofal i mewn i ddiwrnodau prysur
- Creu cynllun gweithredu hunanofal
- Gosod hunanofal yn rhan o arferion pob dydd
- Adnoddau ychwanegol a dangos y ffordd
Mae’r gweithdy hwn wedi ei fwriadu ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig sydd angen ychydig o gymorth i ail ganfod eu ffocws a chynnwys mwy o hunanofal yn eu harferion pob dydd.
Gallwch ddod o hyd i restr o’n cyrsiau i ddod ar ein tudalen Eventbrite yma. Os rydych yn BBaCh (llai na 250 o weithwyr) yng Ngogledd, Gorllewin neu Dde Orllewin Cymru gall yr hyfforddiant hwn fod am ddim, cysylltwch â wellbeing@rcs-wales.co.uk i wirio cymhwysedd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu cwrs ar gyfer eich tîm yn unig, neu os hoffech raglen sydd yn bodloni eich anghenion chi, cysylltwch â ni heddiw.