EIN CYFARWYDDWYR

Yr Athro John Parkinson

Cadeirydd

Mae’r Athro John Parkinson wedi dal swydd academaidd ym Mhrifysgol Bangor ers 2004 a chafodd ei benodi’n Bennaeth Ysgol ym mis Hydref 2013, ac yn Ddeon Coleg Gwyddorau Dynol yn 2020. Cwblhaodd ei radd BSc yn Durham a’i radd PhD yng Nghaergrawnt ac mae’n seicolegydd ac yn niwrowyddonydd. Mae ei ymchwil yn arbenigo mewn seicoleg ymddygiadol, gan ganolbwyntio ar seicoleg gadarnhaol a hybu gweithredu gorau posibl. Mae John hefyd yn Gyfarwyddwr Canolfan Newid Ymddygiad Cymru ym Mhrifysgol Bangor.

Steve Ray

Is-gadeirydd

Mae Steve wedi bod yn ymwneud â chyfiawnder cymunedol ers 1974. Mae wedi gweithio i’r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru a Lloegr fel ymarferydd ac fel Dirprwy Brif Swyddog (North Wales Probation) cyn ymddeol yn 2011. Caiff Steve ei yrru gan y dyhead i gynllunio darpariaeth gwasanaethau ystyrlon ar gyfer y tlawd a’r difreintiedig yn ein cymunedau, yn yr ymdrech i wireddu potensial unigol, trawsnewid bywydau a gwneud gwahaniaeth i unigolion a chymunedau.

Gareth Matthews

Mae Gareth Matthews wedi gweithio yn y sector o fudd-dal i waith ers dros 40 mlynedd. Gareth yw Cyfarwyddwr Itec Training Solutions Ltd, a chyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Lles, Serco (2009 – 2015) ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol gyda Working Links (2000-2007), gyda chyfrifoldeb dros Gymru, Gorllewin Canolbarth Cymru a’r De-orllewin. Dechreuodd Gareth ei yrfa gyda’r Ganolfan Byd Gwaith, gan ddal sawl swydd uwch yn ystod ei 27 mlynedd o wasanaeth.

Edith Frodsham

Mae gan Edith dros 40 mlynedd o brofiad rheoli ar ôl bod yn gweithio i’r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnwys recriwtio staff, partneriaeth a rheoli ariannol. Mae cyfrifoldebau Edith wedi cynnwys helpu cyflogwyr gyda materion recriwtio a diswyddo, a chynorthwyo cwsmeriaid sy’n chwilio am waith – yn enwedig y rhai hynny sydd â phroblemau iechyd – i gael gwaith ac aros mewn gwaith. Mae Edith yn fentor a swyddog hyfforddi cymwys, ac ers iddi ymddeol yn swyddogol mae hi wedi parhau i weithio fel swyddog ariannol i gwmni cyfreithiol bach.

Eirlys Evans MBA

Mae gan Eirlys Evans gyfoeth o brofiad mewn cefnogi a rheoli busnes. Roedd yn Brif Weithredwr Asiantaeth Menter Sir Ddinbych, y bu’n gweithio iddynt am bron i 30 mlynedd, yn ogystal â rhedeg ei busnes ei hun. Mae gan Eirlys ddealltwriaeth gadarn o anghenion busnesau lleol, ac mae’n rhoi pwyslais cryf ar rwydweithio a chydweithio fel ffordd o sicrhau’r gwerth gorau posibl am arian i’r cwsmer.​

Julia Cain

Mae gan Julia Cain brofiad helaeth yn y sector ‘O Fudd-dal i Waith’. Mae hi wedi bod yn ymwneud ag RCS ers ei sefydlu yn 2007, gan weithio’n fwyaf diweddar fel Rheolwr Partneriaethau’r cwmni, gan fod yn gyfryngwr a chynnal cysylltiadau effeithiol rhwng rhanddeiliaid allweddol ym maes iechyd a’r gymuned. Cyn hynny bu’n gyflogedig gyda Working Links ac yn ymddiriedolwr y Links Foundation am nifer o flynyddoedd. Dros y blynyddoedd, mae brwdfrydedd ac ymrwymiad Julia wedi cyfrannu at ddatblygu llawer o atebion arloesol, pwrpasol i faterion diwethdra a diffyg gwaith. Ers ei hymddeoliad yn 2021, mae Julia yn parhau â’i hawydd i gynorthwyo pobl i fod ar eu gorau yn y gwaith, ac i barhau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.