Cwmni Da

Darllenwch yma am hanes Cwmni Da…

GOFALU AM EICH STAFF

 Rydym yn gweithio gyda busnesau o bob maint ac o bob sector trwy Gymru er mwyn creu gweithleoedd hapusach ac iachach.

Gall buddsoddi ymlaen llaw yn llesiant y gweithlu esgor ar fanteision gwirioneddol i’ch gweithwyr ac i’ch busnes, yn cynnwys

  • Llai o absenoldeb salwch
  • Llwyddo i ddal gafael ar ragor o staff
  • Gwell cynhyrchiant
  • Profiad gwell i’r cwsmeriaid
  • Diwylliant gwell yn y gweithle

O gamau llwyddo bach i ddadansoddiad manylach o arferion llesiant eich sefydliad, gallwn deilwra ein cymorth i ddiwallu eich anghenion.

Gall ein tîm o arbenigwyr gynnig y canlynol i’ch busnes:

  • Ymgynghoriad un-i-un er mwyn eich helpu i bennu blaenoriaethau llesiant eich sefydliad
  • Amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddiant, gan gynnig y syniadau diweddaraf mewn meysydd hollbwysig yn ymwneud â llesiant. Gellir cyflwyno’r sesiynau ar-lein neu yn eich gweithle, yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Darllen mwy…
  • Archwiliad o’ch arferion llesiant er mwyn helpu i lunio cynllun llesiant ar gyfer y sefydliad. Darllen mwy…
  • Rhaglen hyfforddiant bwrpasol ar gyfer hyrwyddwyr llesiant, gan eich helpu i adeiladu tîm mewnol a all hyrwyddo llesiant yn y gweithle. Darllen mwy…
  • Cymorth gyda pholisïau a thempledi llesiant
  • Therapïau a chymorth llesiant i unigolion neu i grwpiau, ar gyfer eich gweithwyr. Darllen mwy…

Cwblhewch ffurflen e-atgyfeirio yma

Gofyn am alwad yn ôl

Ers cysylltu gydag RCS, mae’r cymorth a’r help a gefais, a’r wybodaeth y bu modd imi ei rhannu gyda ’nghydweithwyr wedi bod yn wych. O gael 4 Hyrwyddwr Llesiant newydd i rannu rhifau ffôn RCS gyda staff a oedd angen siarad â gweithiwr proffesiynol annibynnol, mae RCS wedi cyfrannu cymaint ar adeg mor anodd i gynifer o bobl.
Cwmni Da

Mae gennym nifer o gynlluniau sy’n cynorthwyo ein gweithwyr ac yn creu gweithle lle mae llesiant ein staff yn ffynnu. Yn 2022, fe wnaethon ni benderfynu adeiladu ar y gwaith da hwn a chydweithio gydag RCS i ddatblygu fframwaith iechyd a llesiant i’n staff. Mae’r fframwaith wedi cynnig cyfeiriad strategol ac wedi ein galluogi i flaenoriaethau iechyd a llesiant. Y fframwaith oedd sail ein cais llwyddiannus am grant i benodi Swyddog Iechyd a Llesiant i arwain y gwaith.
Mudiad Meithrin

Bydd RCS yn eich helpu i ddod o hyd i bynciau perthnasol er mwyn cynorthwyo eich busnes i sicrhau bod llesiant yn fwy perthnasol a helpu i chwalu rhwystrau, gan alluogi pobl i gael gafael ar yr offer iawn i fynd i’r afael â’r pwnc os bydd rhywun yn dweud ei fod yn cael trafferthion. Yn amlwg, roedd y siaradwr yn ein sesiwn yn wybodus ynglŷn â’r pwnc a daeth ei angerdd i’r amlwg yn ystod y gweithdy.
Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru

Darllen mwy…

Os ydych yn Fusnes Bach a Chanolig gyda hyd at 250 o weithwyr yng Ngogledd, Gorllewin a De-orllewin Cymru, efallai eich bod yn gymwys i gael cymorth a hyfforddiant am ddim trwy ein Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith.

Ffoniwch ni i gael gwybod mwy, neu cofrestrwch eich diddordeb gan ddefnyddio ein ffurflen e-atgyfeirio a gwirio a ydych yn gymwys i gael cymorth am ddim.

Rydym wedi mwynhau gweithio gyda’r cwmnïau Cymreig hyn yn fawr:

Menter Fachwen, Book of You CIC, RASASC, Stepping Stones North Wales, Cwmni Da, RYA Cymru, Dewis Architecture, Back Doctor, CADMHAS, Gwarchodfa Cyf, Read Construction, Nice Pak, Prospect House Veterinary Clinic & Hospital, Go2People, Small Woods Wales – Coed Lleol, Cambrian Credit Union, Supertemps, Coatech, Sapphire Streams Plas Y Mor Nursing Home, Cariad Care Homes, Uwchaled Medical Practice, Shelter Cymru, Mon CF Anglesey and Gwynedd, Denbighshire CAB, Antur Wanfawr, Dylan’s Restaurant, Egniol Environmental Ltd, Swn a Sbri, Mental Health Advocacy Scheme, CKI, Hope House Children’s Hospice, Tom Owens & Sons Funeral Directors, Meithrinfa Hen Ysgol, Clynfyw CIC Care Farm, Cylch Meithrin Seiont a Pheblig.

Gwasanaethau Cymorth yn y Gwaith

Mae’r gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn darparu cymorth llesiant am ddim i bobl gyflogedig a hunangyflogedig yng ​Ngogledd, Gorllewin a De Orllewin Cymru. Cysylltwch i ddysgu sut allwn eich helpu chi:

FFÔN: 01745 336442

Gwasanaethau Cymorth yn y Gwaith

Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn darparu cymorth gyda llesiant am ddim i fusnesau BBaCh yn Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd neu Sir Benfro. I ddeall sut allwn eich helpu chi neu eich busnes, ac i wirio eich cymhwystra:
FFÔN: 01745 336442
E-BOST: hello@rcs-wales.co.uk