EICH CEFNOGI CHI I GAEL GWAITH

Dengys tystioaeth fod gweithio, yn gyffredinol, yn dda i’n hiechyd, a gall bod yn y swydd gywir chwarae rôl therapiwtig i gefnogi adferiad o heriau iechyd meddwl a chorfforol.

Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth arbenigol i gynorthwyo pobl i ddarganfod y swydd iawn i’w hanghenion.

Gweithio’n Iach Conwy

Mae ein rhaglen Lleoliad a Chymorth Unigol Conwy yn darparu cymorth arbenigol i bobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl, i ddod o hyd ac i gadw swyddi addas.

Gweithdai Cyflogadwyedd

Lluniwyd ein gweithdai cyflogadwyedd i helpu pobl i fagu hyder a bod yn barod i weithio.

Cwnsela Cyflogaeth

Gall ein gwasanaeth cwnsela cyflogaeth helpu pobl i oresgyn rhwystrau iechyd meddwl i weithio, gan eu helpu i ddatblygu strategaethau ymdopi, gwella hunan-barch a meithrin gwytnwch.

Camau Cynaliadwy – Gyrfaoedd Gwyrdd

Prosiect newydd cyffrous i helpu pobl ifanc rhwng 16 a 30 mlwydd oed yng Ngogledd Cymru i gamu i waith yn y sector ‘gwyrdd’.

Effaith

I ddarganfod mwy am effaith ein gwasanaethau cyflogadwyedd, clywch gan rai o’n cleientiaid yma: eich-straeon, neu darllenwch ein hadroddiadau effaith diweddaraf isod: