STRAEON
CYFLOGWYR

Cwmni Da

“Ers dechrau gweithio gyda RCS, mae’r holl gymorth a’r gefnogaeth yr wyf wedi’i gael a’r wybodaeth yr wyf wedi gallu ei rhannu gyda fy nghydweithwyr yn ardderchog. O benodi 4 o Hyrwyddwyr Lles newydd, i rannu rhif ffôn RCS gydag aelodau staff oedd angen siarad gyda gweithiwr proffesiynol annibynnol, mae RCS wedi cyfrannu llawer iawn ar adeg mor anodd i lawer o bobl,” meddai David Parry Evans, Rheolwr Cyffredinol Cwmni Da, cwmni cynhyrchu o Gaernarfon sydd wedi ennill sawl gwobr Bafta Cymru.

Mae tîm rheoli’r Ganolfan yn ymwybodol o’r angen i fuddsoddi yn lles y staff, sydd yn gorfod ymdopi â llwythi gwaith prysur a thrwm mewn amgylchedd gweithio lle maent dan bwysau mawr. Mae Rheolwr y Practis, Ali Ellis, wedi gwerthfawrogi cefnogaeth Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith RCS, sydd wedi cynnig cymorth un i un i’r cyflogeion yn y gwaith yn ogystal â darparu cymorth a hyfforddiant i’r Ganolfan Iechyd yn gyffredinol fel busnes bach.

Mae staff y ganolfan wedi mynychu nifer o gyrsiau RCS, gan gynnwys ‘Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch’ a nifer o gyrsiau seico-addysgol hanner diwrnod a gynhaliwyd yn y Ganolfan gan un o hyfforddwyr RCS, Hayley Romain, gyda’r bwriad o ddarparu dulliau a thechnegau i fynychwyr allu adeiladu gwytnwch ac effeithiolrwydd personol.

Ar ôl mynychu’r cyrsiau, roedd aelodau staff tîm gweinyddol a thîm clinigol y practis yn siarad am yr amrywiaeth o strategaethau effeithiol maent wedi eu dysgu i hybu eu lles garrtef ac yn y gwaith. Dywedodd nyrs practis yn y Ganolfan:

‘”Roedd y prynhawn ar reoli meddyliau di-fudd yn ardderchog – roedd yn un o’r Sesiynau Amser Neilltuedig gorau rydym wedi ei chael.”

Dywedodd aelod arall o staff fod y sesiwn ar ‘Rheoli Meddyliau Di-fudd’ yn “wych”, gan ddweud eu bod yn gobeithio rhoi rhai o’r strategaethau ar waith yn y gwaith ac yn eu bywyd personol”

Mae Rheolwr y Practis, Ali Ellis, yn siarad yn gadarnhaol am yr effaith mae’r cyrsiau wedi ei chael ar y diwylliant gweithio yn y practis.

“Mae’r cyrsiau wedi bod yn wych ar gyfer y tîm rheoli – maent wedi rhoi llawer o awgrymiadau i ni ynghylch gwella lles yn y gwaith, gan roi’r hyder i ni wybod ein bod yn gwneud ein gorau glas i greu amgylchedd gweithio da i staff, a rhannu awgrymiadau pan fyddwn angen hwb o bryd i’w gilydd.  Rydym wedi gwneud newidiadau mawr hefyd, megis creu mannau ar gyfer egwylion cinio er mwyn cael staff i fwyta oddi wrth eu desgiau, a threfnu digwyddiadau cymdeithasol er mwyn i staff gael ymlacio a mwynhau gyda’i gilydd tu allan i’r gwaith.”

Mae Cwmni Da wedi bod yn gweithio gyda RCS i gryfhau ei gymorth lles ar gyfer ei dîm o 56 aelod staff llawn amser a dros 30 o gymdeithion. Mae’r gefnogaeth oll wedi bod am ddim, wedi’i hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac mae ar gael i fusnesau bach a chanolig ledled Gogledd a De Orllewin Cymru*. Cyn Covid, bu David yn mynychu cyfarfod a gynhelir gan RCS ar Iechyd Meddwl, ac roedd yn teimlo’n gyffrous ynghylch ansawdd y wybodaeth a gafwyd, a’r gefnogaeth ymarferol y mae’r Calendr Lles yn ei ddarparu. Mynychodd yr Uwch Dîm Reoli sesiwn weminar ar reoli straen, ac er iddynt fynd i gyrsiau o’r blaen, gwnaeth yr un yma iddynt feddwl go iawn.

Cyn Covid, rhannodd David wybodaeth am wasanaethau cymorth RCS ar yr hysbysfwrdd i staff yn y gegin ac mae’n ymwybodol bod o leiaf 2 aelod o staff wedi elwa ar ffisiotherapi, ac ers dechrau’r Pandemig mae o leiaf 4 wedi elwa ar therapi siarad. Dywedodd un o’i gydweithwyr wrtho, “Dwi wedi cael fy 6 sesiwn ac maen nhw’n bendant wedi fy rhoi ar y trywydd iawn. Dwi’n teimlo fod gen i rywun i droi ato, ac roedd siarad yn beth da. Mae’n werth codi’r ffôn.” Mae David yn ymwybodol y gall staff deimlo straen ofnadwy yn ei ddiwydiant o gynhyrchu teledu; dywedodd fod criwiau’n tueddu i weithio oriau hir iawn, ac maent o dan bwysau aruthrol, yn enwedig ar Ddramâu. Mae’n ymwybodol iawn fod y diwydiant yn ei gyfanrwydd bellach yn siarad am yr angen i gefnogi criwiau ac mae Swyddogion Lles ar gael ar y set.

“Mae gen i wên fawr ar fy wyneb pan dwi’n meddwl am RCS. I mi a’n busnes, mae’r cyswllt gyda RCS wedi bod yn bositif iawn. Mae wedi rhoi strwythur i ni o ran sut i fynd i’r afael â materion lles a straen sydd wedi dod i’r amlwg dros yr 18 mis diwethaf.”

I ddysgu sut all RCS weithio gyda’ch tîm, cofrestrwch ar gyfer y cyflwyniad nesaf i’r gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith. Mae’r gwasanaeth wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Cysylltwch i ddechrau ar eich taith at les heddiw.
Wellbeing@rcs-wales.co.uk

* Mae Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn darparu cymorth wedi’i ariannu’n llawn i gwmnïau gyda hyd at 250 o weithwyr yn Ynys Môn, Sir Gâr, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd a Sir Benfro.

01745 336442
hello@rcs-wales.co.uk

 

TRB

Mae TRB yn is-gwmni sydd yn eiddo llwyr i gwmni rhyngwladol Tokai Rika Group o Japan. Wedi’i leoli yn Llanelwy, Gogledd Cymru, mae TRB yn cyflenwi cynnyrch switsh modurol o safon i wneuthurwyr cerbydau rheng flaen Ewrop. Mae’r cwmni’n cyflogi cyfanswm o 148 aelod o staff o fewn y timau cynhyrchu, swyddfa gefn a chymorth.

Mae ein tîm cefnogi menter wedi bod yn cefnogi TRB i roi ei strategaeth lles corfforaethol ar waith, gan gynnig amrywiaeth o weithdai ar y safle, yn cynnwys:

  • Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch
  • Rheoli Straen yn y Gweithle
  • Cynlluniau Gweithredu Adfer Lles
  • Ymyriadau Lles ar gyfer y Gweithle

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Adnoddau Dynol TRB, Rob Lloyd:

“Mae materion Lles Iechyd Meddwl yn dod yn fwy o bryder ar draws diwydiant, tebyg iawn i’r sefyllfa yn TRB. Mae’r staff yn ein timau goruchwylio a rheoli wedi darparu adborth gwych ynghylch y wybodaeth maent wedi’i hennill wrth fynychu gweithdai gyda RCS.”

Mae Rob wedi mynd ati’n rhagweithiol i hysbysu ei dîm o staff am y gefnogaeth sydd ar gael gan Wasanaeth Cymorth yn y Gwaith (IWS) RCS, gan ddosbarthu cardiau busnes IWS i bob un o’r 148 o gyflogeion.

“Cymaint yw’r argraff sydd wedi ei greu ar fy staff ynghylch y ffordd yr ymdriniwyd â nhw nes eu bod wedi dod ataf i ddiolch i mi yn bersonol am eu cyfeirio i’r lle cywir.”

“Roedd un o’n cyflogeion mewn lle tywyll pan y cyfeiriodd ei hun at y Gwasanaetha Cymorth yn y Gwaith, ac mae’r gwahaniaeth cadarnhaol ynddo yn dilyn nifer o sesiynau cwnsela yn syfrdanol.”

 

Antur Waunfawr

“Rydym wedi gallu agor llawer mwy ar y sgwrs ynghylch iechyd meddwl gyda chymorth RCS. Mae’n rhwyd ddiogelwch i fusnesau bach. Mae wedi caniatáu staff i beidio â bod ofn trafod eu teimladau. Y peth pwysicaf yw gallu cyfeirio staff at gymorth iechyd meddwl a chorfforol a fyddai wedi bod yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch, a heb aros yn y gwaith. Maent yn cyfeirio eu hunain ac yn hoff o’r elfen gyfrinachedd sy’n perthyn iddo” meddai Margaret Jones, Swyddog Ansawdd a Hyfforddiant Antur Waunfawr.

Mae Antur Waunfawr yn fenter gymdeithasol flaenllaw yng Ngwynedd, yn darparu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddiant i dros 65 o oedolion sydd ag anableddau dysgu a chyflogi dros 100 o staff. Maent yn ymroddedig i ddatblygiad cynaliadwy, amddiffyn yr amgylchedd naturiol a datblygu busnesau gwyrdd.

Mae gwaith Antur Waunfawr yn seiliedig ar oedolion sydd ag anableddau dysgu, ac un o’u gorchwylion yw gwarchod iechyd meddwl. Rhoddant bwyslais mawr ar lesiant oedolion sydd ag anableddau dysgu ac maent yn trefnu gweithgareddau megis mynd am deithiau cerdded, teithiau beicio grŵp, nofio, a therapi adlamu. Mae’r gefnogaeth gan RCS yn sicrhau bod gan staff opsiynau i gymryd gofal o’u llesiant eu hunain.

Aeth Margaret yn ei blaen, “Mae’n gwneud i ni deimlo’n dda ein bod yn gwybod sut i gefnogi’n staff. Ni wyddom sut fyddem wedi ymdopi heb gymorth RCS i gadw cyflogeion yn y gwaith a gwybod sut i’w cynorthwyo.”

Mae Antur Waunfawr wedi cymryd rhan mewn gweminarau ar-lein gyda RCS fel rhan o hyfforddiant ac uwchsgilio staff, ac wedi cwblhau’r hyfforddiant Hyrwyddwr Llesiant. “Rydym yn rhan o Rwydwaith Hyrwyddwyr Llesiant RCS; mae’n fanteisiol iawn i fod yn rhan o grŵp er mwyn rhannu syniadau ac mae’r siaradwyr a gânt yn arbennig o dda. Rydym hefyd yn ystyried cyflwyno ‘awr lesiant’ yn ein contractau cyflogaeth.”

Hoffem longyfarch Antur Waunfawr ar ennill seren aur yng Ngwobrau Great Taste Cymru 2021 am eu cynhyrchiant seidr.