Eich Straeon

CHRISSIE

Cysylltodd Chrissie Diesel o Ruthun â’n Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith am help pan sylwodd ei bod yn cael trafferth i addasu i ofynion bywyd fel milfeddyg ar ôl graddio o Brifysgol Lerpwl.

Cafodd deimladau o bryder ar ei diwrnod cyntaf yn milfeddygfa brysur Wern yn Rhuthun, er nad oedd hi’n gwybod beth oeddent ar y pryd. I ddechrau arni parhaodd Chrissie i weithio drwy’r pryderon a daeth yn filfeddyg poblogaidd gyda chleientiaid a chydweithwyr. Ond parhaodd i fod eisiau cyfogi, a dechreuodd gael ‘amheuon cyson’ ynglŷn â pha un a oedd hi’n addas i’r swydd.

“Rwy’n filfeddyg da ac nid oedd fy mherfformiad yn dioddef ond roedd yn newid mawr,”  eglurodd Chrissie. “Roedd rhan ohonof yn dweud ‘hei, tyd ‘laen newydd ddechrau wyt ti’, ond roedd rhywbeth arall yn dweud wrthyf efallai nad oeddwn yn ddigon da.”

Dros amser, dechreuodd Chrissie deimlo fel pe bai ei gwydnwch a’i hyder yn gwegian wrth i’w lefelau o bryder gynyddu. Yn y diwedd aeth Chrissie i weld ei meddyg teulu, a ddywedodd wrthi am Wasanaeth Cymorth yn y Gwaith RCS.

Roedd mor hawdd a phroffesiynol,”  dywedodd Chrissie,  “Eisteddais gyda Hayley a siaradom am fy sefyllfa a gweithiom allan pa therapydd fyddai orau i mi. “Cefais chwe sesiwn am ddim – roedd yn wych a beth oeddwn wedi bod yn ei ddisgwyl amdano.”

Gan gydweithio â’i therapydd roedd Chrissie yn gallu adnabod ei phryderon a sut y gallai ddelio â nhw. Mae’r gwahaniaeth y mae’r cynllun wedi ei wneud i’w bywyd gwaith, meddai Chrissie, yn rhyfeddol.

“Ni fyddwn byth wedi rhoi’r gorau i fod yn filfeddyg, ond rwy’n credu y byddwn wedi datblygu’n berson anhapus iawn pe na bawn wedi cael cymorth.”

“Rwyf yr un person ag yr oeddwn cynt, ond gallaf bellach gamu’n ôl o sefyllfa a delio â hi yn anadweithiol. Pan mae hi’n dod i fy swydd, rwy’n mwynhau’r heriau a oedd yn arfer fy nychryn ac mae gennyf bellach yrfa fel milfeddyg sy’n fy nghyffroi yn hytrach na fy llethu, sy’n wych.”

Mae’r ferch bump ar hugain oed a’i dyweddi Huw Bill wedi gofyn am roddion i RCS yn hytrach nag anrhegion priodas pan fyddant yn priodi ym mis Gorffennaf.Mae hi’n gobeithio y bydd yr arian a gesglir ar gyfer ei phriodas yn galluogi mwy o bobl i gael y cymorth sydd eu hangen arnynt i aros yn y gwaith.

LESLEY

Heddiw rwy’n Ungorn

“Mae’r help gan dîm Cymorth yn y Gwaith RCS wedi gwneud i mi wneud dewisiadau bywyd gwahanol”

“Llai na 2 flynedd yn ôl, roeddwn yn teimlo mor isel, a byddaf yn ddiolchgar am byth i’r Meddyg am roi rhif ffôn RCS i mi. Mae’r cymorth yn rhad ac am ddim, ac fe newidiodd fy mywyd yn llwyr. Mae’r swydd yn coroni’r cyfan.

 Fy enw i yw Lesley, ac rwyf eisiau rhannu’r ffordd y gwnaeth RCS fy helpu i newid fy mywyd gyda chi. Roeddwn yn profi problemau o fewn fy swydd fel rheolwr swyddfa, yn dilyn llawdriniaeth ar yr asgwrn cefn, a newidiadau mewn rheolaeth. Yn gryno, gwaethygodd fy lefelau straen, ac roeddwn yn dioddef gyda meigrynnau, datblygais asthma ac roeddwn mewn llawer o boen. Daeth y sefyllfa yn y gwaith yn annaliadwy, ac ar ôl datblygu gorbryder sylweddol a phrofi pyliau o banig, es i ar gyfnod o absenoldeb; sylweddolais fy mod yn llithro’n gyflym i iselder. Roeddwn yn teimlo fel methiant am beidio â gallu cydbwyso fy swydd â’m hiechyd; roeddwn yn beio fy hun. Roedd fy Meddyg yn gefnogol iawn, ac yn gwrando arnaf yn ystod fy apwyntiadau emosiynol. Yn un o’r apwyntiadau hyn, a minnau ar fy ngwaethaf, rhoddodd fanylion RCS i mi… gadewais ei ystafell gyda rhif ffôn RCS yn un llaw, a phresgripsiwn ar gyfer gwrth-iselyddion yn y llall. Treuliais rai diwrnodau yn magu’r egni a’r hyder i ffonio RCS, ond rwy’n hynod falch fy mod wedi gwneud hynny. Ni roddais y presgripsiwn i’r fferyllydd, ac nid oeddwn angen y gwrth-iselyddion gyda’r help a dderbyniais gan RCS.

Roeddwn mewn sefyllfa lle nad oeddwn yn gwybod beth i’w wneud, nid oeddwn yn gallu gweld ffordd allan, ond o’r alwad gyntaf gydag RCS, sylweddolais fod rhywun yno i wrando, yn deall yr hyn yr oeddynt yn ei ddweud, ac yn gallu gweld bod opsiynau ar gael i mi; llwyddasant i dawelu fy meddwl nad fy mai i oedd hyn. Dywedwyd wrthyf y byddwn yn gallu cael 6 sesiwn am ddim, ac ar ôl cwrdd â’r ymgynghorydd, lluniasom gynllun er mwyn symud ymlaen. Rhoddodd y sesiynau cwnsela amser i mi ddod i drefn yn bersonol unwaith eto, a phenderfynais greu llwybr newydd i mi fy hun.  Ni sylweddolais pa mor ddwys oedd y sefyllfa tan i mi oresgyn y sefyllfa. Mae siarad yn agored yn helpu i roi eglurder i chi.

Mae Cymorth yn y Gwaith wedi rhoi hwb i fy hyder, wedi fy helpu i feddwl ar lefel wahanol a phrosesu’r holl beth; roeddynt hefyd yn gallu adnabod yr adeg iawn i mi ddechrau gweithio eto, ac awgrymu y dylwn ymgeisio am swydd swyddog cefnogi gydag RCS ei hun. Rwy’n falch fy mod wedi ymgeisio ac wedi derbyn y swydd. Rwy’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd lle gallaf wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Rwy’n teimlo’n gryf am y gwaith mae RCS yn ei wneud, a byddaf yn canu eu clodydd tan ddydd y farn.”

MANDY

‘Dod o hyd i fy lle ‘hapus’

“Y tro cyntaf erioed i mi fynd i redeg ar ôl gorffen fy ffisiotherapi, sylweddolais y MEDRA I WNEUD HYN. Mae fy iechyd corfforol wedi gwella, ond rydw i hefyd wedi colli bron i dair stôn mewn pwysau, ac mae fy iechyd meddwl wedi gwella yn aruthrol. Rydw i wedi dod o hyd i fy lle ‘hapus’. Ffonio RCS y diwrnod hwnnw roddodd fi ar y llwybr hwn, sydd yn sicr wedi newid fy mywyd”.

Mae Mandy bellach yn arweinydd y tîm darparu gyda RCS. Mae hi’n un sy’n ysbrydoli, a diolch iddi am rannu ei fideos a’i hanesion rhedeg a’u defnyddio i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl gyda’r elusen MIND ac RCS. Dyma ei hanes hi:

Sut wnaethoch chi gysylltu ag RCS am y tro cyntaf?
Pan roeddwn i’n arfer gweithio i’r Lleng Brydeinig Frenhinol, penderfynais fy mod am geisio rhoi hwb i fy iechyd corfforol a rhedeg marathon i godi arian ac ymwybyddiaeth. Er hynny, roedd gennyf boen go ddifrifol yn fy nghlun a’m mhen-glin ers rhyw chwe mis, ac yn gwybod bod angen i mi roi sylw i hynny cyn dechrau hyfforddi. Awgrymodd hen ffrind i mi ffonio RCS i holi am help.

Beth ddigwyddodd nesaf?
Cefais fy nghyfeirio at y gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith a gweld Steve, cydlynydd achos.  Aeth Steve ati i gymryd fy manylion, cwblhau’r gwiriadau i weld a oeddwn i’n gymwys, a chynnig llu o sesiynau ffisiotherapi i mi. Dewisais ffisiotherapydd chwaraeon yng Nghonwy. Gweithiodd y chwe sesiwn a’r taflenni hunangymorth dilynol yn dda iawn i mi. Llwyddais i ddechrau hyfforddi, gan ddefnyddio’r technegau a ddysgais, a chwblhau Marathon Llundain, yn araf cofiwch! Codais £7000 i’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Heb y ffisio, fyddai hyn ddim wedi bod yn bosib. Roedd yn effeithio ar fy mywyd gwaith, a minnau methu gyrru yn bell ac mewn poen.

Beth oedd yn eich synnu chi am y gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith?
Fedrwn i ddim credu pa mor gyflym oedd y gwasanaeth, pa mor sydyn y gwelais y ffisiotherapydd a’r cymorth a gefais wedyn. Ar ben hynny, roedd o AM DDIM.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth ffrind sydd yn meddwl am gysylltu â Cymorth yn y Gwaith RCS?
Y rhan anoddaf yw codi’r ffôn a gwneud y cyswllt cyntaf. Wir i chi, roeddwn i’n teimlo’n braf o’r cyswllt cyntaf hwnnw â’r tîm gweinyddol, y cydlynydd achos, y therapydd a’r ôl-ofal. Cefais wasanaeth personol heb gael fy marnu. Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un am godi’r ffôn, mae’n hollol ddi-lol wedi hynny.

Sut mae dechrau rhedeg wedi effeithio arnoch chi?
Bedair blynedd yn ôl, gredwn i fyth y byddwn i’n rhedeg. Y tro cyntaf erioed i mi fynd i redeg ar ôl gorffen y ffisiotherapi, sylweddolais y MEDRA I WNEUD HYN. Mae fy iechyd corfforol wedi gwella, ond rydw i hefyd wedi colli bron i dair stôn mewn pwysau, ac mae fy iechyd meddwl wedi gwella yn aruthrol. Rydw i wedi dod o hyd i fy lle ‘hapus’. Ar wahân i redeg RED January am y bedwaredd flwyddyn eleni, rwyf hefyd wedi cofrestru i redeg Her Llwybr Arfordir Cymru eleni, ble byddaf (gobeithio) yn rhedeg/cerdded llwybr Cymru bron â bod, sy’n 870 o filltiroedd. Dymunwch lwc dda i mi! Ffonio RCS y diwrnod hwnnw roddodd fi ar y llwybr hwn, sydd yn sicr wedi newid fy mywyd”.

STEPHEN

Roedd Stephen Thomas wedi bod yn gweithio fel gyrrwr lorri cyn i gyflwr poenus olygu na allai godi o’i wely a gweithio am dri mis.

Cofrestrodd Stephen gyda’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith ac fe’i hatgyweiriwyd yn gyflym i gael asesiad ffisiotherapi. O fewn mis o ddechrau cael triniaeth, roedd Stephen yn ôl y tu ôl i lyw ei lorri.

Dywedodd Stephen:

“Dechreuais gael poen cefn ddiwedd mis Ionawr 2017 ond fel pob dyn arall anwybyddais y boen. Roeddwn yn meddwl y byddwn yn iawn felly penderfynais beidio â mynd i weld y meddyg.

“Yna ym mis Mehefin roeddwn wedi cyrraedd pen fy nhennyn. Nid oeddwn yn gallu gweithio mwyach ac roedd y boen yn gwneud i mi deimlo’n sâl.

“Nid oeddwn erioed wedi colli gwaith yn fy nydd ac ni allai fy nghyflogwyr gredu’r peth pan ddywedais na fyddwn yn gallu dod i mewn. Roedd fy nghyflogwyr yn gydymdeimladol iawn a chefais dâl salwch ond nid oeddwn yn gallu cerdded, nid oeddwn yn gallu codi o’r gwely, nid oeddwn hyd yn oed yn gallu plygu i lawr i roi fy hosanau.

“Cefais fy anfon i’r ysbyty a chefais nifer o sganiau – aeth y profion hyn ymlaen am wythnosau ac wythnosau.

“Dyna pryd wnaethant awgrymu i mi siarad â RCS. Cefais gyfweliad a dywedasant wrthyf gallwn dy helpu. Cynhaliodd eu therapydd chwe sesiwn driniaeth ar fy nghyhyrau ac erbyn mis Medi roeddwn yn ôl yn y gwaith.

“Rwyf wedi newid y ffordd yr wyf yn gwneud llawer o bethau erbyn hyn gan gynnwys y ffordd yr wyf yn codi pethau. Rwy’n gwneud ymestyniadau gwahanol gartref yn ogystal ag ymarferion ar y penwythnos ac yn gwneud yn siŵr fy mod yn cael sociad hir yn y bath i helpu fy nghyhyrau.

“Byddwn 100% yn annog unrhyw un sydd mewn sefyllfa debyg i gysylltu â RCS. Yn ôl pob tebyg ni fyddwn yn ôl yn y gwaith nawr oni bai am eu help.”

DEIRDRE

6 sesiwn ffisio rhad ac am ddim – gwelliant o 80% a’r gallu i ymgymryd â mwy o waith

Roedd Deirdre yn profi poen yn ei chlun a’i phen-glin, a oedd yn effeithio ar ei gwaith, felly cysylltodd â RCS am gefnogaeth.

Mae gwaith Deirdre yn gwneud iddi eistedd wrth ei desg am gyfnodau hir o amser. Roedd hi’n gweld hyn yn anghyfforddus a chyrhaeddodd y pwynt lle roedd hi’n gorfod cyfyngu ar waith, a oedd yn effeithio ar ei hincwm. Roedd y boen hefyd yn effeithio ar ei chwsg.

Mae Deirdre yn gweithio gartref felly mae’n bwysig iddi allu mynd am dro yn ddyddiol i helpu cynnal iechyd meddwl da. Gwnaeth ei hanallu i wneud hyn iddi deimlo’n isel.

Yn gyflym, sefydlodd RCS gwrs o 6 sesiwn ffisiotherapi a oedd yn cynnwys: magnetotherapi, symudiadau meinwe meddal, cyngor ystumiol, mobileiddio cyhyrau, hunan reolaeth ac ymarferion cartref.

Yn dilyn ei sesiwn olaf nododd Deirdre a’i therapydd fel ei gilydd welliant o 80%. Mae ei gwell symudedd wedi rhoi llawer mwy o hyder iddi ac wedi gwneud iddi deimlo’n llawer mwy cadarnhaol. Mae hi hefyd yn ymgymryd â mwy o waith.