Rheoli Straen a Defnyddio Cynlluniau Gweithredu Lles

Mae deall achosion ac effaith straen yn y gweithle’n gallu helpu i ddatblygu’r hyder i fynd i’r afael yn uniongyrchol â straen yn y gwaith

– Hybu gwytnwch ac ymgysylltiad o fewn eich timau, gan greu gweithlu hapusach a mwy cynhyrchiol.

Mae’r cwrs yma’n archwilio:

  •  Achosion o straen yn y gweithle
  • Sut mae gweithfannau’n gallu datblygu asesiadau risg
  • Canllawiau ar gefnogi staff
  • Creu cynllun gweithredu ar gyfer straen a lles

 Mae’r cwrs yn cynnwys:

  • Templed Cynllun Gweithredu ar gyfer Lles
  • Tystysgrif am bresenoldeb ar y cwrs

Gallwch ddod o hyd i restr o’n cyrsiau i ddod ar ein tudalen Eventbrite yma. Os rydych yn BBaCh (llai na 250 o weithwyr) yng Ngogledd, Gorllewin neu Dde Orllewin Cymru gall yr hyfforddiant hwn fod am ddim, cysylltwch â wellbeing@rcs-wales.co.uk i wirio cymhwysedd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu cwrs ar gyfer eich tîm yn unig, neu os hoffech raglen sydd yn bodloni eich anghenion chi, cysylltwch â ni heddiw.