
Hyder a Chymhelliant
Ydych chi’n awyddus i roi hwb i’ch lles corfforol a chefnogi eich tîm i wneud yr un fath? Ymunwch â’n rhaglen hyfforddiant 2 awr ar-lein wedi’i chynllunio i’ch helpu chi i ryddhau eich potensial a chyflawni eich nodau.
Pigion y sesiwn:
- Diffiniadau: Deall prif ganfyddiadau hyder a chymhelliant.
- Hyder a Chymhelliant: Dysgwch sut mae’r ddwy nodwedd hanfodol yma yn gallu gyrru eich llwyddiant.
- Cymhelliant: Archwiliwch y gwahanol fathau o gymhelliant, yn fewnol ac allanol fel ei gilydd.
- Eich Cymhelliant eich Hun: Darganfyddwch beth sy’n eich cymell chi’n bersonol a sut i ddal gafael ar hyn.
- Ffordd o Feddwl sy’n Ysgogi Twf: Datblygwch ffordd o feddwl sy’n croesawu heriau ac yn meithrin gwelliannau parhaus.
- Pethau sy’n Gwastraffu Amser Dysgu adnabod a rheoli gweithgareddau sy’n gwastraffu eich amser.
- Oedi: Dysgwch am strategaethau i orchfygu oedi (procrastination) ac aros yn gynhyrchiol.
- Hyder: Magwch hyder a dysgwch sut i’w arddangos yn effeithiol.
- Cynllun Gweithredu: Crëwch gynllun gweithredu personol i’w roi ar waith er mwyn cymhwyso’r hyn rydych chi wedi’i ddeall a chyflawni eich nodau.
Bwriad y sesiwn yma yw eich darparu gydag adnoddau ymarferol a mewnwelediadau er mwyn rhoi hwb i’ch hyder a’ch cymhelliant, gan eich helpu chi i ffynnu yn bersonol ac yn broffesiynol.
Pam Ymuno?
- Fformat Ar-lein Cyfleus: Gallwch gyfranogi o unrhyw le.
- Cynnwys gyda Ffocws: Yn cwmpasu pynciau hanfodol er mwyn gwella eich hyder a’ch cymhelliant.
- Arweiniad Arbenigol: Dysgwch gan weithwyr proffesiynol profiadol.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i drawsnewid eich ffordd o feddwl a chyflawni eich potensial yn llawn.
Er mwyn canfod mwy neu archebu cwrs ar eich cyfer eich hun neu eich tîm, ffoniwch 01745 336442, ebostiwch wellbeing@rcs-wales.co.uk.
Ffeithiau Allweddol
Hyd y cwrs: 2 awr
Pris Unigol: £80 y pen
Pris Grŵp: £475 i grŵp o hyd at 16 o fynychwyr.
Efallai y bydd costau dylunio ychwanegol ar gyfer cyrsiau pwrpasol. Byddwn yn trafod hyn gyda chi cyn y sesiwn.
Gallwch ddod o hyd i restr o’n cyrsiau i ddod ar ein tudalen Eventbrite yma. Os rydych yn BBaCh (llai na 250 o weithwyr) yng Ngogledd, Gorllewin neu Dde Orllewin Cymru gall yr hyfforddiant hwn fod am ddim, cysylltwch â wellbeing@rcs-wales.co.uk i wirio cymhwysedd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu cwrs ar gyfer eich tîm yn unig, neu os hoffech raglen sydd yn bodloni eich anghenion chi, cysylltwch â ni heddiw.