HYFFORDDIANT CYFLOGADWYEDD
Hyfforddiant cyflogadwyedd
Mae ein gweithdy cyflogadwyedd rhyngweithiol 2 awr yn helpu cyfranogwyr i fagu hyder a pharodrwydd i gael swydd. Gall unigolion neidio ar ein rhaglen dreigl ar unrhyw adeg neu gallwch gomisiynu cwrs ar gyfer eich grŵp eich hun am brofiad mwy penodol. Rydym hefyd yn gallu cyflwyno cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwch yma am fanylion y cyrsiau sydd ar y gweill, neu cysylltwch â ni yn hello@rcs-wales.co.uk.Â
Cost: £35 y pen y gweithdy. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am drefnu cwrs yn benodol ar gyfer eich grŵp
Meddwl
Paratoi ar gyfer gwaith: rhowch hwb i gymhelliant a hunangred drwy siarad yn gadarnhaol gyda’ch hun a meithrin eich prif gryfderau.
Gwneud Argraff
Cynghorion gorau ar sut i wneud argraff dda mewn cyfweliad a thu hwnt i’r gweithle. Beth i’w wneud a pheidio gwneud o ran beth i’w wisgo, sut i gyfarch pobl a sut i gyflwyno eich hun yn broffesiynol.
Hunanofal
Tiwnio i mewn i’r hyn sydd ei angen arnoch chi a’ch corff i aros yn iach a ffynnu yn y gwaith. Rydym yn edrych ar bwysigrwydd cysgu, deiet, ymarfer corff ac ymlacio wrth gynnal llesiant.
Manteisio ar amser
Gall archwilio sut y gall trefnu a chynllunio ymlaen llaw helpu i feithrin sgiliau ar gyfer presenoldeb cadarnhaol a phrydlondeb – awgrymiadau, triciau a thechnegau ar gyfer cyflawni pethau’n brydlon.
Mae fy nhîm i'n wych!
Archwilio beth sy’n gwneud tîm gwych – awgrymiadau ar gyfer cael y gorau allan o eraill yn ogystal â sicrhau eich bod yn chwarae eich rhan.
Trapiau Meddwl a sut i'w hosgoi
Sut i atal poenau meddwl a phryderon sy’n eich llethu, gan wynebu eich ofnau a’u gorchfygu, ac ymdopi â sefyllfaoedd annisgwyl.
Chwilio am swydd
Sut i chwilio a gwneud cais am y rolau sy’n gweddu orau i’ch sgiliau a’ch dyheadau. Eich helpu i ehangu eich chwiliad swydd ac ystyried rhai swyddi neu gyfleoedd na fyddech efallai wedi meddwl amdanynt o’r blaen.
CV a Chlinig Ceisiadau Swyddi
Dysgwch sut i sicrhau bod eich CV neu eich cais am swydd yn serennu o blith yr ymgeiswyr. Archwiliwch sut i dynnu sylw at eich sgiliau a’r profiadau sydd gennych sy’n cyd-fynd â’r rôl rydych chi’n ymgeisio amdani.Â
Cyfweld yn broffesiynol
Sut i wynebu eich pryderon mewn cyfweliad a dangos eich hun ar eich gorau’n hyderus. Ymarfer cyfweliad go iawn i’ch helpu i ddelio â’r senarios mwyaf cyffredin.