Offeryn Asesu Llesiant Sefydliadol

Mae RCS wedi creu Offeryn Asesu Llesiant Sefydliadol unigryw er mwyn helpu cyflogwyr i adolygu eu dull o ymdrin â llesiant yn y gweithle. Crëwyd yr offeryn hwn ar y cyd â Phrifysgol Bangor trwy’r Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN).

Mae’r offeryn yn caniatáu i sefydliadau wneud y canlynol:

  • adolygu eu dull a’u hymrwymiad presennol i lesiant yn y gweithle
  • adolygu’r darpariaethau llesiant a gynigiant i’w gweithwyr
  • pennu meysydd y gellir eu gwella
  • llunio cynllun gweithredu wedi’i deilwra

Bydd angen oddeutu 30 munud i lenwi’r arolwg ar-lein.

Bydd yr offeryn yn asesu chwe maes yn ymwneud â llesiant yn y gweithle:

1. Ymrwymiad Sefydliadol

4. Iechyd Meddwl

2. Gwybodaeth ac Ymgysylltu

5. Iechyd Corfforol

3. Amgylchedd Gwaith Iach

6. Ffyrdd Iach o Fyw

1. Ymrwymiad Sefydliadol

2. Gwybodaeth ac Ymgysylltu

3. Amgylchedd Gwaith Iach

4. Iechyd Meddwl

5. Iechyd Corfforol

6. Ffyrdd Iach o Fyw