Hyfforddiant Hyrwyddwr Lles
“Fe wnes i fwynhau’r sesiwn heddiw yn fawr iawn ac mae wedi rhoi cyngor a syniadau gwych i mi ddechrau gwella llesiant yn y gweithle.”
“Roedd Claire yn gadarnhaol ac yn galonogol a chafodd y grŵp cyfan ran yn y sesiwn. Fe wnaeth i mi feddwl amdanaf fy hun a fy nghryfderau. Rwy’n mwynhau digwyddiadau RCS bob amser a gobeithio parhau i weithio gyda’r rhwydwaith llesiant”
“Mae wedi rhoi hwb i mi allu cadw ar ben y rôl hyrwyddwr llesiant ac mae’n gyfle gwych i rannu syniadau.”
“Hyfforddiant rhagorol ac yn rhoi sylfaen dda a chefnogaeth i unrhyw un sy’n newydd i’r rôl.”
Wellbeing Champions Training 11 Oct CY
Hyfforddiant Hyrwyddwr Lles
Pryd: Dydd Mercher, 27 Sep 2023 10:00 – 13:00 BST
Lle: Online
Cost: £50
Cofrestru: Trwy Eventbrite https://www.eventbrite.co.uk/e/hyfforddiant-hyrwyddwr-lles-tickets-672051974547?aff=ebdsoporgprofile
Mae Hyrwyddwr Llesiant ar gael i gydweithwyr pan fo arnynt angen clust i wrando, ar gyfer eu cyfeirio at gymorth arbenigol petai angen, ac ysgogi diwylliant iach yn y gweithle. Mae’r cwrs hyfforddi 3 awr poblogaidd hwn yn seiliedig ar fodel cymorth cymheiriaid, sy’n uwchsgilio unigolion i chwarae rôl allweddol wrth hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gweithle.
Bydd y cwrs yn eich cynorthwyo i:
- Archwilio beth yw hyrwyddwr llesiant, a’r hyn nad ydyw
- Deall rôl a chyfrifoldebau hyrwyddwr llesiant
- Datblygu sgiliau mewn gwrando empathetig a gweithredol
- Archwilio syniadau ar gyfer cynllunio gweithgareddau a chael adnoddau ar eu cyfer i hyrwyddo llesiant yn y gweithle.
Mae’r cwrs yn cynnwys sesiwn ryngweithiol, cwblhau llyfrau gwaith ar-lein, hawl i becyn cymorth o adnoddau, a gwahoddiad agored i’n rhwydwaith hyrwyddwr llesiant ar lein chwarterol.
Cofrestru trwy Eventbrite yma https://www.eventbrite.co.uk/e/hyfforddiant-hyrwyddwr-lles-tickets-672051974547?aff=ebdsoporgprofile
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes gennych ddiddordeb mewn sesiwn grŵp, cysylltwch â ni ar hello@rcs-wales.co.uk.