Hyfforddiant Hyrwyddwr Lles

Pryd: Dydd Mercher, 27 Sep 2023 10:00 – 13:00 BST
Lle: Online
Cost: £50
Cofrestru: Trwy Eventbrite https://www.eventbrite.co.uk/e/hyfforddiant-hyrwyddwr-lles-tickets-672051974547?aff=ebdsoporgprofile

Mae Hyrwyddwr Llesiant ar gael i gydweithwyr pan fo arnynt angen clust i wrando, ar gyfer eu cyfeirio at gymorth arbenigol petai angen, ac ysgogi diwylliant iach yn y gweithle. Mae’r cwrs hyfforddi 3 awr poblogaidd hwn yn seiliedig ar fodel cymorth cymheiriaid, sy’n uwchsgilio unigolion i chwarae rôl allweddol wrth hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gweithle.

Bydd y cwrs yn eich cynorthwyo i:

  • Archwilio beth yw hyrwyddwr llesiant, a’r hyn nad ydyw
  • Deall rôl a chyfrifoldebau hyrwyddwr llesiant
  • Datblygu sgiliau mewn gwrando empathetig a gweithredol
  • Archwilio syniadau ar gyfer cynllunio gweithgareddau a chael adnoddau ar eu cyfer i hyrwyddo llesiant yn y gweithle.

Mae’r cwrs yn cynnwys sesiwn ryngweithiol, cwblhau llyfrau gwaith ar-lein, hawl i becyn cymorth o adnoddau, a gwahoddiad agored i’n rhwydwaith hyrwyddwr llesiant ar lein chwarterol.

Cofrestru trwy Eventbrite yma https://www.eventbrite.co.uk/e/hyfforddiant-hyrwyddwr-lles-tickets-672051974547?aff=ebdsoporgprofile

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes gennych ddiddordeb mewn sesiwn grŵp, cysylltwch â ni ar hello@rcs-wales.co.uk.

No Results Found

The page you requested could not be found. Try refining your search, or use the navigation above to locate the post.