Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith Dogfennau Cymhwystra

Mae Rhaglen Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith RCS yn cael ei hariannugan Lywodraeth Cymru.
I fod yn gymwys am gymorth drwy RCS, mae’n rhaid i chi:

  • Fod â hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y DU
  • Bod yn byw yng ngogledd Cymru, Dyfed neu Fae Abertawe
  • Bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig

Bydd angen i ni gael tystiolaeth ddogfennol cyn y gallwn gynnig gwasanaeth ichi. Cewch ddod â’r dogfennau i mewn i’n swyddfa, eu hanfon drwy e-bost, neu eu llwytho i fyny gan ddefnyddio dolen we.

Yn y mwyafrif o achosion, bydd yn ddigon os cawn weld slip cyflog diweddar (o fewn y 3 mis diwethaf) os ydyw’n dangos eich enw, rhif Yswiriant Gwladol a chyfeiriad cartref.

Os oes rhywfaint o’r wybodaeth hon ar goll, neu os ydych chi’n hunangyflogedig, mae’r rhestr isod yn dangos pa ddogfennau eraill/ychwanegol y gallwn eu derbyn.

Mae RCS wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol; cewch wybod mwy am sut yn ein Datganiad Preifatrwydd yma.

Dogfen Adnabod Rhif 1: Eich hawl i fyw a gweithio yn y DU

• Rhif Yswiriant Gwladol ar Slip Cyflog neu ddogfen swyddogol
• Cerdyn Yswiriant Gwladol
•  Pasbort Llawn y DU

• Pasbort Llawn y DU neu Basbort Llawn gydag ategiadau / fisas cywir
• Llythyr gan yr Adran Fewnfudo
• Tystysgrif Geni / Mabwysiadu
• Tystysgrif Priodas / Partneriaeth Sifil

Dogfen Adnabod Rhif 2: Yn byw yn ardal y ddarpariaeth

• Slip cyflog yn arddangos cyfeiriad cartref yn ardal y ddarpariaeth
(wedi ei ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf)
• Trwydded Yrru (yn arddangos cyfeiriad cartref presennol)
• Gohebiaeth â’r Banc
(dyddiedig o fewn y 3 mis diwethaf)
• Bil Cyfleustod
(dyddiedig o fewn y 3 mis diwethaf)
• Dogfennau Morgais/Tenantiaeth
(dyddiedig o fewn y 3 mis diwethaf)
• Llythyr neu e-bost swyddogol gan gyflogwr yn cadarnhau cyfeiriadcartref yn ardal y ddarpariaeth

Dogfen Adnabod Rhif 3: Tystiolaeth o Statws Cyflogaeth

Cyflogedig

• Slip Cyflog Cyflogaeth
(dyddiedig o fewn y 3 mis diwethaf)
• Gohebiaeth gan gyflogwr, h.y., llythyr neu e-bost swyddogol
(dyddiedig o fewn y 3 mis diwethaf)
• Cytundeb Cyflogaeth wedi’i Lofnodi (dyddiedig o fewn y 12 misdiwethaf)
• P60 flynyddol ddiweddaraf
• Gohebiaeth gan CThEF sy’n cadarnhau cyflogaeth

Os ydych yn hunangyflogedig, gallwch ddarparu naill ai

Naill ai un o’r rhestr:

• Ffurflen dreth ‘SA302’ wedi’i hunanasesu gyda chydnabyddiaeth o’iderbyn
• Cofnodion sy’n dangos taliad gwirioneddol o Yswiriant GwladolDosbarth 2
• Cyfraniadau Rhif Cofrestru TAW a ffurflenni TAW
• Llythyr gan gyfrifydd
(dyddiedig o fewn y 3 mis diwethaf)
• Os ydych wedi cofrestru fel cwmni cyfyngedig, cofnod ar Dŷ’r Cwmnïaugyda yn dangos eich enw fel Cyfarwyddwr y Cwmni

NEU ddwy eitem o’r rhestr isod:

• Rhif cyfeirnod Treth Unigryw (UTR) ar ddogfen swyddogol
• Cofnodion busnes yn profi masnachu, e.e. cofnodion banc,anfonebau a chyfrifon
• Rhif cofrestru ar Dŷ’r Cwmnïau
(Mae’n rhaid i ddyddiad y dogfennau fod o fewn y 12 mis diwethaf, oni bai ein bod yn nodi’n wahanol)