Chrissie

Darllenwch yma am hanes Chrissie…

CYMORTH YN Y GWAITH
Ngogledd, Gorllewin a De Orllewin Cymru

Eich cadw chi’n iach yn y gwaith

Gall straen neu orbryder hirdymor ein gwneud ni’n llai parod i ddelio â phwysau a galw yn y gwaith, effeithio ar ein perthnasau â chydweithwyr ac effeithio ar ein gallu i wneud penderfyniadau. Gall problemau iechyd meddwl hefyd greu symptomau corfforol, megis cur pen a phoen cefn. Gall bod yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch fod yn fwrn, gyda phryderon ariannol yn aml yn arwain at broblemau iechyd.

Mae ein Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn cynnig therapïau a chymorth cyfrinachol cyflym am ddim yn cynnwys cwnsela, therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) a ffisiotherapi i’ch helpu chi i ddod yn ôl ar eich traed. Gall ein cymorth proffesiynol un-i-un eich helpu chi i reoli straen a meithrin gwytnwch, lleihau gorbryder, gwella eich iechyd corfforol a gwneud newidiadau cadarnhaol yn y gwaith.

Mae Cymorth yn y Gwaith ar gael am ddim ar draws Cymru i weithwyr busnesau micro, bach a chanolig (SME), wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae RCS yn falch o ddarparu IWS yng Ngogledd Cymru, Gorllewin a De Orllewin Cymru.

Cwblhewch ffurflen e-atgyfeirio yma

Gofyn am alwad yn ôl

Cynigir ein holl gymorth dros y ffôn, dros Zoom neu’n bersonol.

“Gallais ddychwelyd i’r gwaith bron iawn yn syth. Cefais driniaeth ffisio am ddim yn gyflym iawn. Roedd pawb a oedd ynghlwm i weld yn ‘poeni’ o ddifrif. Ni allaf ganmol y gwasanaeth ddigon.”

“Does dim amheuaeth o gwbl gennyf, heb y cymorth a gefais, ni fyddwn wedi gallu aros yn y gwaith na datrys y problemau mor sydyn.”

“Hollol ffantastig, gwasanaeth cyflym, cefais gymorth ar adeg pan oeddwn yn ei chael hi’n anodd iawn i ymdopi. Cefais 6 sesiwn cwnsela am ddim yn syth, heb orfod disgwyl dim”

Therapïau siarad

Nod ein therapïau siarad yw ceisio eich helpu chi i reoli straen, lleihau gorbryder a meithrin dulliau ymdopi. Rydym yn darparu amrywiaeth o therapïau am ddim ar alw drwy ein rhwydwaith proffesiynol o ymgynghorwyr, therapyddion ymddygiadol gwybyddol a seicolegwyr clinigol.

Therapïau corfforol

Mae ein ffisiotherapyddion proffesiynol a therapyddion chwaraeon yn cynnig triniaethau, arweiniad ac ymarferion i ymdrin ag unrhyw broblemau cyhyrol sy’n effeithio arnoch yn y gwaith.

Cysylltu â chyflogwyr

A ydych chi’n ystyried trafod cyflwr iechyd gyda’ch cyflogwr, eisiau holi am newid oriau neu ddyletswyddau, neu drafod pryderon ynghylch rolau neu berthnasau yn y gwaith? Gallwn eich helpu chi i baratoi ar gyfer trafodaethau gyda’ch cyflogwr, neu gallwn siarad gyda nhw ar eich rhan.

Hawliau cyflogaeth

Mae bob amser yn fuddiol gwybod lle’r ydych yn sefyll – gallwn ddarparu gwybodaeth gyfredol i chi am eich hawliau a’ch haeddiannau yn y gwaith.

Dyled a chyllid

Gall trafferthion ariannol ychwanegu at y straen o gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith. Rydym yn eich helpu chi i gael cymorth arbenigol gyda chyllid neu ddyled.

Gwasanaethau Cymorth yn y Gwaith

Mae’r gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn darparu cymorth llesiant am ddim i bobl gyflogedig a hunangyflogedig yng ​Ngogledd, Gorllewin a De Orllewin Cymru. Cysylltwch i ddysgu sut allwn eich helpu chi:

FFÔN: 01745 336442

Gwasanaethau Cymorth yn y Gwaith

Mae’r gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn darparu cymorth llesiant am ddim i bobl gyflogedig a hunangyflogedig yng ​Ngogledd, Gorllewin a De Orllewin Cymru. Cysylltwch i ddysgu sut allwn eich helpu chi:
FFÔN: 01745 336442
E-BOST: hello@rcs-wales.co.uk