Pam mae ‘ffitrwydd meddyliol’ yn bwysig yn y gweithle a sut allwn ni gefnogi gweithwyr i fod yn fwy ‘ffit yn feddyliol’?

Mae pob un ohonom yn ymwybodol o bwysigrwydd ymarfer corff i gynnal ein ffitrwydd corfforol. Mae diwydiant cyfan wedi’i adeiladu o amgylch gwahanol fathau o ddosbarthiadau, chwaraeon a lefelau ffitrwydd i’n helpu i ennill màs y cyhyrau, lleihau màs braster, cynyddu stamina neu ffitrwydd cardiofasgwlaidd. Ond beth am ein ffitrwydd meddyliol? Wrth gwrs, mae gennym athrawon a dosbarthiadau sy’n canolbwyntio ar fyfyrdod neu weithgareddau ymlacio eraill, ond heblaw am hynny, ychydig iawn o gymorth sydd ar gael i’n cefnogi i ffynnu’n feddyliol ac aros yn ffit yn feddyliol.

Mae ffitrwydd meddyliol felly yn cynnal cyflwr o lesiant cyffredinol a chyflwr o ymwybyddiaeth yn ymwneud â sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Ond eto, faint ohonom sy’n canolbwyntio ar hyn yn ein bywydau o ddydd i ddydd? Yn enwedig pan fydd bywyd yn mynd yn iawn neu pan fyddwn yn teimlo’n gyfforddus. Nid yw’r rhan fwyaf ohonom erioed wedi cael ein dysgu am bwysigrwydd yr wybodaeth hon. Mae’r rheiny sydd wedi, yn aml wedi dysgu o brofiad, trwy therapi neu hyfforddiant penodol yn ymwneud â’r ymennydd a’r cysylltiad rhwng y meddwl a’r corff. Mae ffitrwydd meddyliol yn hanfodol i’n profiad dynol. Gall olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd iawn a bywyd rhyfeddol, bywyd o fodoli neu o estyn am y sêr, bywyd o oroesi’n unig neu ffynnu. Pan fyddwn yn feddyliol ffit, rydym yn byw yn fwriadol ac yn ymwybodol. Rydym yn dewis sut i fod a sut i ymateb, nid dim ond ymateb i’n hamgylchedd neu ein hemosiynau wrth iddyn nhw fynd a dod. Mae ymateb yn hytrach nag adweithio yn golygu bod gennym ni ddewis a chyda hynny, rhywfaint o reolaeth a hyder.

Beth a olygir gan ymateb yn hytrach nag adweithio?

Wrth i ni feddwl ein ffordd trwy ein dyddiau, mae ein hymennydd yn creu llwybrau niwral neu rigolau. Po fwyaf yr ydym yn cael meddwl penodol, y cryfaf y daw’r llwybr niwral ac yn y pen draw daw’n awtomatig, fel darllen neu yrru. Unwaith y byddwn wedi dysgu darllen, nid oes angen i ni feddwl am beth yw’r gair hwnnw, beth mae’r frawddeg hon yn ei olygu, rydym yn syml, yn ei ddeall. Mae’n dod yn awtomatig. Dyma beth sydd angen digwydd ar gyfer tasgau fel darllen neu yrru, neu pan fyddwn ni’n dilyn llawer o’n harferion arferol fel teithio i’r gwaith ac ati. Daw hyn yn broblematig pan fydd ein meddwl awtomatig yn ein tynnu oddi wrth ein nodau mwy mewn bywyd neu pan fydd ein gweithredoedd yn cael eu sbarduno gan sefyllfaoedd neu emosiynau yn y gorffennol. Er enghraifft, yn yr ysgol dywedwyd wrthych na fyddech chi’n cyflawni unrhyw beth, nid oeddech chi byth yn cael y graddau gorau nac yn ennill unrhyw dlysau, er eich bod yn ceisio’ch gorau, felly fe wnaethoch chi ddatblygu llwybr niwral yn dweud wrthych nad oedd neb yn sylwi ar nac yn cydnabod eich ymdrechion, felly pam trafferthu? Yn y gwaith, rydych chi’n gwneud y lleiaf posib i gyflawni tasgau, ac yn credu bod gweithio’n galetach yn ddibwrpas gan na fydd neb yn sylwi nac yn ei gydnabod. Mae’r patrwm awtomatig hwn i’w briodoli i’r un llwybr niwral a ddatblygwyd gennych fel plentyn mewn ymateb i’r sefyllfa honno yn yr ysgol, ond mae’n bryd i ollwng gafael arno, fel y gallwch ei atal rhag pennu eich dyfodol!

Mae bod yn ymwybodol o’ch iaith a’ch meddyliau a chael dealltwriaeth o sut maent yn effeithio ar eich teimladau, eich ymddygiad a’ch gweithredoedd, yn allweddol i adeiladu eich ffitrwydd meddyliol. Mae angen y cryfder meddwl arnom hefyd i nodi gwahanol opsiynau fel y gallwn ddewis cam gweithredu newydd a datblygu llwybr niwral newydd. Dyna pam ei fod mor bwysig i ganolbwyntio ar ein ffitrwydd meddyliol bob dydd, yn enwedig pan fo bywyd yn iawn! Os arhoswn tan y byddwn yn teimlo’n isel, yn ddigalon neu’n bryderus gall fod yn llawer anoddach. Mae ein cryfder meddwl yn brysur yn brwydro yn erbyn y meddyliau neu’r emosiynau negyddol hynny ac mae ein gallu i nodi gwahanol opsiynau yn gyfyngedig, sy’n golygu nad oes gennym lawer ar ôl i symud i fyny’r continwwm iechyd meddwl. Er mwyn cyrraedd y ffitrwydd meddwl gorau posibl, mae angen i ni adeiladu ein cyhyrau meddwl neu lwybrau niwral newydd gyda’r un bwriad â phe baem yn ceisio cryfhau ein cyhyrau deuben, ein cyhyrau triphen neu gyhyrau’r abdomen. Mae angen i ni ganolbwyntio ar gynnal ein ffitrwydd meddyliol.

Pam mae ffitrwydd meddyliol yn bwysig yn y gwaith?

Mae datblygu gwell ffitrwydd meddyliol yn arbennig o bwysig yn y gwaith oherwydd ei fod yn golygu ein bod yn:
– Fwy presennol – pan fyddwn yn fwy presennol ac ystyriol rydym yn cadw gwybodaeth yn well, rydym yn ymwybodol o bethau sy’n tynnu ein sylw (ond ddim yn gadael iddynt wneud hynny) ac rydym yn uniaethu’n well ag eraill, yr union rinweddau y gallech fod eisiau eu meithrin i gael tîm cynhyrchiol ac effeithlon yn y gweithle.
– Meddu ar well swyddogaeth wybyddol – mae gennym fwy o ffocws, gwell cof a sgiliau canolbwyntio, gwell sgiliau rheoli amser a gwell sgiliau cyfathrebu.
– Meddu ar fwy o hyder – pan fyddwn yn ffynnu, mae ein perthynas â ni’n hunain yn gwella, mae gennym fwy o gred yn ein gallu ac rydym yn fwy tebygol o ymgymryd â gwaith cymhleth neu fynd am ddyrchafiad ac ati.
– Canolbwyntio ar ein hunanofal – mae ein hagwedd gadarnhaol yn golygu ein bod yn gofalu am ein hunain yn well, yn meithrin arferion gwell a hyd yn oed yn cysgu’n well!

Sut alla i gefnogi fy ngweithwyr i ddod yn fwy ffit yn feddyliol ac i ffynnu yn y gwaith?

Mae cael gweithlu cynhyrchiol, galluog, sy’n ffynnu, yn hanfodol i unrhyw fusnes. Ond, sut allwch chi hybu ffitrwydd meddyliol gweithwyr a’u helpu nhw i ffynnu yn y gwaith? Dyma rai awgrymiadau:
– Creu diwylliant agored, cefnogol lle mae gweithwyr (lle bo’n bosibl) yn cael eu grymuso ac yn gallu cymryd perchnogaeth o’u gwaith, eu hamserlenni, eu tasgau ac ati.
– Creu amgylchedd dysgu, heb fwrw bai, lle mae camgymeriadau yn cael eu gweld fel profiadau dysgu neu gyfleoedd i dyfu
– Rhoi amser a lle yn amserlenni gweithwyr iddynt ymarfer corff, myfyrio neu gael seibiant bach. Gallai hyn gynnwys egwyliau cinio estynedig, cael amseroedd dechrau a gorffen hyblyg, cael mannau hyblyg yn y gweithle i fyfyrio neu eistedd gyda phlanhigion naturiol neu gael parthau heb liniaduron o fewn amgylchedd swyddfa.
– Galluogi gweithwyr i weithio’n hyblyg (o fewn polisïau presennol) er mwyn rheoli eu gwaith a’u llesiant yn effeithiol. Gallai hyn gynnwys gweithio gartref ad-hoc, amseroedd dechrau a gorffen hyblyg neu gynnwys ‘diwrnodau dwfet’ yn eich lwfans gwyliau blynyddol.
– Rhoi hyfforddiant ffitrwydd meddyliol i’ch holl weithwyr
– Ystyried ychwanegu cyfarfodydd cerdded at eich pecyn cymorth cyfarfodydd (os yw’n briodol)
Er mai dim ond ychydig o awgrymiadau yw’r rhain, bydd pa gymorth yn union y byddwch yn ei gynnig yn dibynnu ar faint eich sefydliad, y math o waith sydd dan sylw, a’r hyblygrwydd sydd ar gael. Pa bynnag fath o gymorth y byddwch yn ei ddewis, mae hybu ffitrwydd meddyliol gweithwyr yn y gwaith hefyd yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar agweddau eraill ar eu bywydau – mae pawb ar eu hennill!