Llwyddiant codi arian rhediad RCS Dark

Dyddiad: 29 Hydref 2023

Cymerodd Ali Thomas (Prif Weithredwr), Sion Jones (Cyfarwyddwr Gweithrediadau) a Rebecca Tillotson (Swyddog Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol) ran yn Ras Dywyll Tŷ Gobaith Hope House yng Nghonwy ar 28 Hydref 2023. Roedd hyn yn rhan o waith codi arian RCS ar gyfer ein helusen ddewisol Ty Gobaith.

Mae eu hymdrechion wedi codi £191, a fydd yn cael arian cyfatebol gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality, felly bydd y cyfanswm yn cael ei ddyblu. Llongyfarchiadau a diolch i chi gyd am gynrychioli RCS.