Hwb ariannol mawr i ieuenctid mewn diwydiannau gwyrdd
Mae RCS wrth ei fodd o fod wedi derbyn cyllid ar gyfer prosiect newydd cyffrous yng Ngogledd Cymru i gefnogi pobl ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol yn ogystal â phobl ifanc o gymunedau lleiafrifoedd ethnig i ddechrau gyrfaoedd ‘gwyrdd’. Rhoddir y dyfarniad o £3,180,371 drwy ariannu Asedau Segur* sy’n cael ei ddarparu trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Rydym wedi llunio’r prosiect gyda’n partneriaid gwych Adferiad, Co-options, Academi Natur Môn, STAND North Wales CIC ac M-Sparc, ac wedi cael llawer o fewnbwn i’r cynnig gan bobl ifanc, cyflogwyr a sefydliadau eraill.
Mae’r cyllid yn rhoi hwb enfawr i’n cenhadaeth i helpu pobl i ddatgloi eu potensial trwy waith, ac ar yr un pryd chwarae rhan weithredol wrth wneud Cymru wyrddach a mwy cynhwysol.
Gwiriwch am ddiweddariadau ar ein gwefan yma ynghylch sut y gallwch chi gymryd rhan yn y rhaglen.