Ryan

Cefnogwyd Ryan Roberts, 22, o Abergele i gael gwaith drwy’r rhaglen Mi FEDRAF Gweithio ddechrau 2020.

Ar ôl astudio Datblygu Gemau yng Ngholeg Llandrillo Menai, dywedodd Ryan, sydd weithiau’n cael anawsterau gyda rheoli ei bryder, ei fod wedi ‘dod at faen tramgwydd’ wrth geisio camu mewn i’r byd gwaith.

“Roeddwn wedi ymgeisio am ddwsinau o swyddi ond nid oeddwn yn llwyddiannus nac yn cael unrhyw ymateb.“

“Roeddwn wedi dod at faen tramgwydd. Roedd yn torri fy nghalon ac roeddwn yn meddwl pam nad oedd neb yn rhoi cyfle i mi.”

Yn benderfynol o wella ei nod o ddod o hyd i swydd a meddu ar sgiliau newydd, dechreuodd Ryan wirfoddoli gyda’r Crest Co-operative sydd wedi’i lleoli yng Nghyffordd Llandudno.

“Bu i mi gwblhau dros 100 awr o waith gwirfoddol ac roedd yn fy helpu i fagu hyder, dysgu sgiliau newydd a chael profiad mewn manwerthu a rheoli stoc.”

Yna cafodd Ryan ei gyfeirio at y rhaglen MI FEDRAF Weithio, lle cafodd gefnogaeth ddwys gan Lorraine Ann, Arbenigwr Cyflogaeth gyda Strategaeth Dinas y Rhyl, i ddod o hyd a pharatoi at waith cyflogedig addas.

Ym mis Ionawr, llwyddodd i gael swydd gyda Chymdeithas Cyfeillion yn Ysbyty Glan Clwyd ar gytundeb parhaol 20 awr yr wythnos. Mae wedi parhau i gael cefnogaeth gan y rhaglen Mi FEDRAF Gweithio trwy gydol ei gyflogaeth.

Dywedodd Ryan:

“Edrychom ar wahanol swyddi y gallaf ymgeisio amdanynt ar sail yr hyn yr hoffwn ei wneud a’r hyn y gallaf ei wneud, gyda fy sgiliau a fy mhrofiad. Cefais fy nghefnogi i wneud cwrs rheoli pryder hefyd, sydd wedi fy helpu’n fawr iawn. Cefais nifer o gyfweliadau ffug hefyd i fy helpu i baratoi at fy nghyfweliadau. O ganlyniad roeddwn yn teimlo fy mod wedi paratoi yn dda ac roedd yn helpu gyda fy mhryder. Mae fy mhrif ddyletswyddau’n cynnwys sicrhau bod yna ddigon o stoc, gwneud archebion a helpu o ran cynnal y bar te. Rwyf wir yn mwynhau’r swydd a’r drefn y mae wedi’i roi i mi. Mae bod mewn gwaith wedi fy ngwneud yn fwy hyderus ac wedi rhoi rhywbeth i mi edrych ymlaen ato bob dydd. Rwy’n cyfarfod pobl newydd yn fy ngwaith bob dydd, sy’n gyffrous.”