Daniel

Darllenwch yma am hanes Daniel…

EICH CEFNOGI CHI I MEWN I WAITH

Gall bod yn y swydd iawn helpu i wella eich llesiant cyffredinol a chefnogi adferiad ar ôl profi anawsterau iechyd meddwl. Mae ein rhaglen Gweithio’n Iach yn cynnig cymorth arbenigol er mwyn helpu pobl sydd ag anghenion iechyd meddwl i ddod o hyd i gyflogaeth addas.
 
Mae’n seiliedig ar egwyddorion y Lleoliad a Chymorth Unigol (IPS), a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) fel y model gorau ar gyfer helpu pobl sydd ag iechyd meddwl gwael i ddod o hyd i waith.
 
Mae Gweithio’n Iach yn cynnig:
 
  • Cymorth un-i-un wrth chwilio am swyddi, gan gynnwys sgiliau cyfweld a llunio CV
  • Cymorth hyfforddiant a mentora
  • Cwnsela cyflogaeth i helpu pobl i oresgyn rhwystrau iechyd meddwl rhag gweithio
  • Cysylltu â chyflogwyr i drafod unrhyw gymorth neu addasiadau angenrheidiol
  • Cymorth parhaus yn y gwaith er mwyn helpu i gynnal cyflogaeth
  • Gweithdai hyfforddiant cyflogadwyedd

Cwblhewch ffurflen e-atgyfeirio yma

Gweithio’n Iach

  •   Gall Gweithio’n Iach gefnogi pobl sy’n profi ystod o anawsterau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder, gorbryder a phyliau o banig
  • Yn ôl tystiolaeth, gall cyflogaeth helpu i wella iechyd, llesiant ac ansawdd bywyd, yn ogystal â chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi adferiad ar ôl profi anawsterau iechyd meddwl
  • Gallwch gyfeirio eich hun at Gweithio’n Iach, neu gallwch gytuno i gael eich cyfeirio gan unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol sy’n eich cefnogi chi
  • Nid oes rhaid ichi fod yn cael cymorth iechyd meddwl gan y GIG i gael cyngor Gweithio’n Iach
  • Mae Gweithio’n Iach yn arbenigwyr cyflogaeth sy’n cynnig cymorth dwys i’ch helpu i wneud cais am waith â thâl yn gyflym, sy’n seiliedig ar eich dewisiadau gwaith, sgiliau a phrofiad
  • Mae Gweithio’n Iach yn cynnig cymorth unigol parhaus i chi a’ch cyflogwr cyn hired ag y bydd ei angen – yn eich helpu i gadw eich swydd ar adegau heriol
  • Gall Arbenigwyr Cyflogaeth Gweithio’n Iach weithio ochr yn ochr â gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi i ddod o hyd i swydd, a’i chadw
  • Gall Gweithio’n Iach eich helpu i fanteisio ar gyngor mewn perthynas â budd-daliadau ac effaith dychwelyd i’r gwaith ar eich incwm

“Roedd gyrru adref ar ôl fy niwrnod cyntaf yn fy swydd newydd yn deimlad mor arbennig – teimlad nad wyf wedi’i brofi ers tro byd. Rwy’n hynod ddiolchgar, diolch.”

“Mae wedi bod yn daith (a hanner), ac roeddwn wedi ystyried rhoi’r gorau iddi sawl gwaith. Heb gymorth, nid wyf yn credu y byddwn wedi gwella mor sydyn â hyn, os o gwbl.”

“Rwy’n teimlo’n well yn barod, ac yn fwy brwdfrydig o ddydd i ddydd. Mae gallu troi at rywun wedi gwneud gwahaniaeth mawr i mi’n barod.”

Mae Gweithio’n Iach yn adeiladu ar beilot IPS llwyddiannus, “Mi Fedraf Weithio”, a arweiniwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’i ddarparu gan RCS ac Adferiad dros chwech o siroedd Gogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.  Cefnogodd RCS 680 o bobl gydag anghenion iechyd meddwl, gyda 36.4% yn sicrhau gwaith cyflogedig. Gallwch ddarllen am y gwasanaeth yma.

Gwnaethom hefyd ddarparu cwnsela a chymorth hyfforddiant cyn cyflogaeth i 50 o bobl yn ystod 2022 mewn partneriaeth arloesol gyda Chyngor Conwy – darllenwch ein hadroddiad effaith yma .