Wythnos Addysg Oedolion 2024
Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad mwyaf o ddysgu gydol oes yng Nghymru, gyda’r nod o ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod angerdd am ddysgu a datblygu sgiliau ar gyfer gwaith a thrwy gydol eu hoes.
Mae RCS wedi creu sesiwn hyfforddi a phodlediad i goffau’r wythnos, gan gynnig sgiliau gwerthfawr i wella eich lles meddwl a rhoi’r dewrder i archwilio cyfleoedd newydd.
Hyfforddiant: Sut i Hybu Eich Hyder a’ch Hunan-gred
Dyddiad: 12fed Medi 2024
Amser: 2pm – 3:30pm
Cost: Am ddim.
Ymunwch â ni am sesiwn hyfforddiant ar-lein gyfeillgar, hamddenol ac addysgiadol a fydd yn cynnwys:
- Beth yw hyder a hunan-gred a pham mae ei angen arnoch chi.
- Effaith hunan-gred a hyder mewn dysgu, gwaith a bywyd a’r gwahaniaeth y gall hyn ei wneud.
- Pethau sy’n dylanwadu ar hunanhyder, er enghraifft, profiadau yn y gorffennol, adborth gan eraill a hunansiarad.
- Awgrym a thechnegau ar sut i hybu hunan-gred a hyder.
Archebwch Nawr
Podlediad: Rhowch hwb i’ch ffitrwydd meddwl a rhowch yr hyder i chi’ch hun i roi cynnig ar rywbeth newydd
Gall cychwyn ar rywbeth newydd ysgogi amrywiaeth o emosiynau – o gyffro a rhagweld i ofn, braw a phryder.
Ymgollwch yn y podlediad hwn gan Dr. Beverley Taylor, seicolegydd siartredig, wrth iddi ymchwilio i’r emosiynau hyn a’ch arwain ar sut i ymdopi ag ofn a herio’ch meddylfryd. Dysgwch sut i baratoi ar gyfer llwyddiant, meithrin eich hun, alinio eich meddylfryd, hybu hyder, a chyrraedd eich nodau personol.
Darganfod rhagor o gyfleoedd dysgu
Mae cannoedd o gyrsiau, digwyddiadau ac adnoddau dysgu am ddim ar gael fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion 2024. Chwiliwch am un i chi ar eu gwefan yma https://adultlearnersweek.wales/free-event-search/. Darganfyddwch eich angerdd a pheidiwch byth â rhoi’r gorau i ddysgu.