RCS yn dathlu 15 mlynedd o gefnogi lles yn y gweithle

Dyddiad: 29 Ionawr 2024

Dathlodd RCS ein pen-blwydd yn 15 oed yn ddiweddar. I goffáu’r gamp anhygoel hon, fe wnaethom gynnal digwyddiad dathlu gyda’r nos yn y Rhyl, lle dechreuodd RCS am y tro cyntaf.

Roedd yn noson wych ac yn gyfle perffaith i edrych yn ôl ar rai o’n hen brosiectau a’n llwyddiannau dros y blynyddoedd.

Roedd yn anrhydedd i ni groesawu’r Fonesig Carole Black GBE fel ein siaradwr gwadd a fu’n allweddol yng nghysyniad a dyluniad y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith (gwasanaeth ‘ffit i weithio yn wreiddiol) yn 2009.

Fel rhan o’r dathliad, fe wnaethom gynhyrchu fideo arbennig sy’n cynnwys straeon gan gleientiaid a busnesau rydym wedi’u cefnogi yn y blynyddoedd diwethaf. Gallwch wylio’r fideo isod neu ddolen yma https://youtu.be/o9O9wo51IF8.