Prosiect cyflogadwyedd newydd yng Nghonwy
Dyddiad: 3ydd Ionawr 2024
Mae RCS gyda phleser yn cyflwyno rhaglen cymorth cyflogaeth newydd yn ddiweddar ar gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl. Mae Gweithio’n Iach ar gael i bobl sy’n byw yng Nghonwy, sy’n ddi-waith ar hyn o bryd, ac sydd â chyflwr iechyd meddwl, megis iselder neu hwyliau isel, gorbryder neu byliau o banig.
Mae’r rhaglen hon yn cynnig cymorth un i un i chwilio am waith, cymorth mentora a hyfforddi, cwnsela cyn cyflogaeth a mwy, gyda phob un wedi’i deilwra ar gyfer yr unigolyn.
I ddysgu rhagor am Gweithio’n Iach ewch i’n gwefan, anfonwch e-bost i workwell@rcs-wales.co.uk neu ffoniwch 01745 336442.