NEWYDD – Cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar gael
Dyddiad: 1af Mai 2024
Rydym yn gyffrous i lansio cwrs newydd, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, a achredwyd gan Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru.
Mae ein cwrs hyfforddiant, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru, yn darparu arweiniad a chymorth arbenigol i chi i gydnabod a chefnogi anghenion iechyd meddwl y bobl o’ch cwmpas, fel ffrindiau, aelodau teulu a chydweithwyr.
Bydd y cwrs 2 hanner diwrnod yn:
• Archwilio beth mae Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (CCIM) yn ei wneud, neu ddim yn ei wneud
• Egluro rôl a chyfrifoldebau Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
• Darparu cyflwyniad i iechyd meddwl a rhai o’r heriau o ran llesiant
• Cyflwyno Cynllun Gweithredu CCIM a sut i’w roi ar waith
• Helpu cynrychiolwyr i ddatblygu sgiliau o ran gwrando empathig a gweithredol
Bydd y cwrs ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Cofrestrwch eich diddordeb drwy e-bostio workshops@rcs-wales.co.uk.