Helpwch i lunio prosiect Gyrfaoedd Gwyrdd yng Ngogledd Cymru!

Dyddiad: 08/11/24

Mae priosect Gyrfaoedd Gwyrdd Gogledd Cymru RCS yn gyffrous i fod yn un o ddeg prosiect a ddewiswyd i fynd ymlaen i ail gam proses ymgeisio Camau Cynaliadwy y Loteri Genedlaethol.

Bydd y prosiect arfaethedig yn anelu at helpu pobl ifanc rhwng 16 a 30 oed yng Nghymru i gael ‘gyrfaoedd gwyrdd’, gan ganolbwyntio ar bobl sy’n anabl neu â chyflyrau iechyd meddwl, a phobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Rydym angen eich help i lunio cynnig y prosiect!

Cyflogwyr Gogledd Cymru
Os gwelwch yn dda cymerwch 10 munud i gwblhau ein harolwg byr gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Arolwg cyflogwyr: https://forms.office.com/r/vvnU0XJhjn

Pobl ifanc 16-30 oed sy’n byw yng Ngogledd Cymru
Cwblhewch yr arolwg byr hwn a chael cyfle i ennill tocyn anrheg gwerth £20.
Arolwg pobl ifanc: https://forms.office.com/r/PqGyA4uCfZ

Mae’r arolygon yn cau ar 30 Tachwedd 2024. Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.