Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith – Yn derbyn cyfeiriadau! 

Dyddiad: 1af Awst 2023

Mae RCS wedi cael eu dewis gan Lywodraeth Cymru i gynnig Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yng Ngogledd, Gorllewin a De Orllewin Cymru.

Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn darparu cymorth am ddim a therapïau seicolegol neu gorfforol i helpu pobl gyflogedig a hunangyflogedig i wella eu lles a lleihau absenoldeb salwch o’r gwaith. Mae cefnogaeth yn gyflym, am ddim ac yn gwbl gyfrinachol.

Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at weithwyr o fusnesau bach a chanolig (BBaCh) sydd â chyflwr iechyd meddwl neu gorfforol ysgafn i gymedrol sy’n effeithio arnynt yn y gwaith. Nid oes angen i bobl fod yn absennol o’r gwaith ar hyn o bryd i fod yn gymwys am gymorth.

Gall pobl atgyfeirio eu hunain i’r gwasanaeth drwy ddefnyddio’r ffurflen atgyfeirio electronig ar ein gwefan yn www.rcs-wales.co.uk/cy/your-wellbeing-at-work/.

Cyrsiau sydd ar ddod – cyllid ar gael i fusnesau cymwys
Mae RCS yn cynnal nifer o hyfforddiant sy’n ymwneud â llesiant o fis Medi, gan gynnwys Hyrwyddwyr Lles, Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Sgyrsiau Lles, Ymwybyddiaeth o’r Menopos a Chynlluniau Gweithredu Rheoli Straen a Lles. Dewch o hyd i restr lawn ar Eventbrite https://www.eventbrite.co.uk/o/rcs-wales-27861958967.

Os ydych chi’n fusnes BBaCh (llai na 250 o staff) sydd wedi cofrestru yn ardaloedd dethol RCS, efallai y byddwch yn gymwys i gael mynediad i’r cyrsiau hyn wedi’u hariannu’n llawn, yn ogystal â chymorth pellach i helpu i wella lles yn y gwaith. I gael gwybod a ydych yn gymwys i gael cyllid, cysylltwch â ni ar wellbeing@rcs-wales.co.uk.