Datgelu cyfanswm codi arian ar gyfer Tŷ Gobaith

Dyddiad: 19 Awst 2024

Bob blwyddyn mae RCS yn dewis elusen i godi arian ar ei chyfer, ac yn 2023 pleidleisiodd cydweithwyr RCS i godi arian ar gyfer Tŷ Gobaith Hope House. Mae Tŷ Gobaith Hope House yn cynnig gwasanaethau hanfodol i blant â chyflyrau sy’n peryglu bywyd a’u teuluoedd.

Rydym yn falch o ddatgelu ein bod wedi codi cyfanswm o £543.06 dros y 12 mis diwethaf. Gwnaed hyn trwy brynhawniau cacennau, cymryd rhan yn eu digwyddiad Rhedeg Tywyll y llynedd yn ogystal â threfnu ein her gerdded ein hunain.

Cadwch lygad i ddarganfod pwy sy’n cael ei ddewis fel ein elusen nesaf.