Cwsg: Beth yw ‘cwsg da’ a sut allwn ni gefnogi gweithwyr i gael mwy o ohono?

Date: 25th November 2024

Mae cwsg yn rhan hanfodol o fod yn ddynol ac mae’n bwysig i’n gweithrediad corfforol a meddyliol. Mae cael digon o gwsg o ansawdd da ein helpu ni i wneud y canlynol:

  • Teimlo’n adfywiedig ac yn dda
  • Rheoleiddio ein hemosiynau
  • Rheoli straen
  • Gwneud penderfyniadau
  • Datrys problemau
  • Canolbwyntio
  • Cofnodi a threfnu atgofion
  • Adnabod perygl neu weld bygythiadau
  • Atgyweirio cyhyrau, cymalau a meinweoedd
  • Ymladd clefydau a heintiau

Ond eto, dwi’n siŵr bod pob un ohonom wedi cael cyfnodau yn ein bywyd pan rydym wedi cael trafferth cael digon o’r cwsg o ansawdd sydd ei angen arnom. Cyfnodau pan rydym wedi deffro’n teimlo’n ddiynni, yn syfrdan, yn ddryslyd ac wedi blino’n lân. Pa un a ddigwyddodd hynny ambell noson neu dros gyfnod hwy, gall achosi llawer iawn o orbryder a straen i ni. Ond beth sy’n normal? A sut allwn ni wneud yn siŵr ein bod ni’n cael digon o gwsg?

Faint o gwsg sy’n normal?

Byddwch yn aml yn gweld neu’n clywed bod “angen 7 neu 8 awr o gwsg y noson” i gadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Er bod angen tua 7-9 awr o gwsg y noson ar oedolion dan 65 oed, mae ein hunion anghenion cwsg yn unigol iawn. Bydd rhai pobl yn gweithredu’n dda iawn ar ôl 5 neu 6 awr o gwsg, tra bod eraill yn cael trafferth gyda llai nag 8 neu 9 awr. Mae ein hanghenion cwsg hefyd yn newid wrth i ni symud trwy fywyd – rydym yn tueddu i fod angen mwy o gwsg yn ystod plentyndod, cyfnod y glasoed a beichiogrwydd a llai o gwsg wrth i ni fynd yn hŷn. Ond nid yw hyn yn wir i bawb. Gall trawsnewidiadau mawr mewn bywyd fel dod yn rhiant, mynd trwy’r menopos, neu wrth fynd trwy straen neu newidiadau mawr mewn bywyd effeithio ar ein cwsg. Meddyliwch am symud tŷ, priodi, cael dyrchafiad yn y gwaith, salwch yn y teulu ac ati. Y peth pwysig yw deall sut rydych chi’n teimlo – ydych chi’n deffro’n teimlo’n barod ar gyfer y diwrnod? Neu a ydych chi eisiau aros o dan y dwfe, a’ch pen yn teimlo’n drwchus ac yn drwm a’ch llygaid yn goch? Os mai’r olaf sy’n wir, rhowch gynnig ar rai o’m hawgrymiadau isod.

Sut alla i wneud yn siŵr fy mod i’n cael digon o ‘gwsg da’?

Diolch byth mae digon o bethau y gallwch eu gwneud i gefnogi eich corff i gael noson dda o gwsg:

  • Cael amserlen gwsg gyson a chadw ati gymaint â phosib, hyd yn oed ar benwythnosau neu ddiwrnodau i ffwrdd o’r gwaith!
  • Canolbwyntio ar hydradu da yn ystod y dydd a lleihau faint o hylif rydych yn ei yfed yn ystod yr awr cyn i chi fynd i’r gwely, er mwyn osgoi gorfod codi i fynd i’r toiled yn ystod y nos
  • Mae treulio amser yn yr awyr agored bob dydd yn cefnogi’r gwahanol hormonau sy’n cyfrannu at gwsg
  • Gwneud ymarfer corff rheolaidd – ond nid yn ystod yr awr neu ddwy cyn i chi fynd i’r gwely
  • Osgoi cyfnerthwyr fel caffein, alcohol a thybaco neu gael pryd o fwyd trwm gyda’r nos
  • Creu ystafell wely gysurus a chyfforddus i’ch helpu i ymlacio cyn mynd i gysgu
  • Creu arferion ymlacio tawelol i atgoffa eich corff ei bod hi’n amser gwely – myfyrio, darllen neu weithgareddau tawelol eraill
  • Gwrando ar fyfyrdodau, ‘sleepcast’ neu synau ymlaciol eraill wrth i chi syrthio i gysgu
  • Cofnodi eich pryderon a’ch gofidiau ar bapur cyn i chi fynd i’r gwely – mae hyn wir yn helpu os ydynt ar eich meddwl pan fyddwch yn ceisio mynd i gysgu
  • Creu cysylltiad cryf rhwng y gwely a chysgu – cadw gwaith, gliniaduron, y cyfryngau cymdeithasol i ffwrdd o’ch ystafell wely. Dwi’n gwybod bod yna demtasiwn i wylio fideos o anifeiliaid ciwt neu sgrolio trwy’r cyfryngau cymdeithasol cyn mynd i’r gwely, ond gall hynny darfu ar y cysylltiad yn ein hymennydd a’i gwneud hi’n anoddach i gysgu yn y tymor hwy.

 Cofiwch, mae pob un ohonom yn cael adegau pan fydd cwsg yn anoddach, yn enwedig pan fydd bywyd yn mynd yn brysur, neu pan fyddwn yn mynd trwy newidiadau mawr mewn bywyd. I lawer, bydd yr awgrymiadau hyn yn helpu, ond os ydych chi’n teimlo ei fod yn dod yn fwy o broblem, neu os yw’n effeithio ar sut rydych chi’n teimlo neu’ch gallu i ymdopi drannoeth yna mae angen i chi gysylltu â’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall a chael rhywfaint o gymorth.

 

Beth alla i fel cyflogwr ei wneud i gefnogi fy ngweithwyr os ydynt yn cael trafferth cysgu a bod hynny’n effeithio ar y gweithle?

Fel cyflogwr byddwch yn deall pwysigrwydd cael gweithlu hapus, cynhyrchiol, llwyddiannus sydd wedi dadflino. Ond beth, allwch chi ei wneud i gefnogi gweithwyr sy’n cael trafferth cysgu, a bod hynny’n effeithio ar y gweithle:

  • Creu amgylchedd agored, cefnogol lle gall gweithwyr siarad am unrhyw heriau heb feio na barn. Mae hyn yn galluogi gweithwyr i estyn allan a chael y cymorth sydd ei angen arnynt a hefyd yn rhyddhau eu hegni meddwl ar gyfer tasgau mwy cymhleth yn y gwaith.
  • Creu amgylchedd dysgu heb fwrw bai lle nad yw camgymeriadau yn cael eu gweld fel camgymeriadau neu fethiannau, ond yn hytrach yn brofiadau dysgu
  • Galluogi gweithwyr i weithio’n hyblyg (o fewn polisïau presennol) i reoli problemau cwsg yn effeithiol – gallai hyn gynnwys gweithio gartref ad-hoc, amseroedd dechrau a gorffen hyblyg neu gynnwys ‘diwrnodau dwfe’ yn eich lwfans gwyliau blynyddol.
  • Rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth cwsg i’ch holl weithwyr i’w cefnogi os oes bylchau gwybodaeth ynghylch cwsg da
  • Rhoi mynediad at fyfyrdodau, ‘sleepcasts’ neu apiau a all gefnogi cwsg
  • Rhoi lle ac amser yn amserlenni gweithwyr ar gyfer ymarfer corff neu egwyliau byr – gallai hyn gynnwys y gallu i gymryd egwyl amser cinio estynedig neu gael amseroedd dechrau a gorffen hyblyg ac ati.
  • Ystyried ychwanegu cyfarfodydd cerdded at eich pecyn cymorth cyfarfod (os yw’n briodol) fel y gall gweithwyr fynd allan yn ystod y dydd.

 

Bydd penderfynu ar ba lefel a pha fath o gymorth y gallwch ei ddarparu yn dibynnu ar faint eich sefydliad, y math o waith sydd dan sylw, y gyllideb sydd ar gael ac anghenion eich gweithwyr. Weithiau, y lle gorau i ddechrau yw gofyn i weithwyr pa gymorth yr hoffant ei gael yn y gwaith. Beth bynnag y byddwch yn ei ddewis, cofiwch y bydd cael diwylliant agored, cefnogol, heb fwrw bai yn golygu bod gweithwyr yn fwy tebygol o fod yn agored a rhannu’r hyn sydd ei angen arnynt i ffynnu yn y gwaith.

Oeddech chi’n gwybod… Mae RCS yn cynnal cyrsiau a sesiynau cefnogi cwsg. Oes oes gennych ddiddordeb mewn trefnu lle, ebostiwch workshops@rcs-wales.co.uk.