Cefnogi Gweithwyr Trwy’r Menopos: Strategaethau ar gyfer Gweithle Iachach

Sut mae’r menopos yn effeithio ar weithwyr yn y gwaith a sut allwn ni roi cefnogaeth ddigonol iddyn nhw?

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ymwybyddiaeth o’r menopos a’i effaith ar waith wedi cynyddu, a hynny am reswm da. Mae ystadegau’n dangos bod tua 13 miliwn o fenywod sy’n gweithio yn y DU yn mynd trwy’r menopos. Yn ogystal â hynny, menywod sy’n mynd trwy’r menopos yw’r demograffig sy’n tyfu gyflymaf yn y gweithle. Pan fyddwn yn ystyried agweddau cymdeithasol fel cynnydd mewn disgwyliad oes ac oedran pensiwn y wladwriaeth, mae’n debygol y bydd hyn yn parhau am beth amser. Mae hyn yn golygu y bydd llawer mwy o fenywod nag erioed o’r blaen yn parhau i weithio trwy’r menopos ac ymhell i mewn i’w blynyddoedd ar ôl y menopos. Ni fu cymaint o angen erioed am godi ymwybyddiaeth a chreu gweithleoedd agored a chefnogol. Mae hyn yn cefnogi llesiant gweithwyr a gallu unigolyn i gwblhau tasgau gwaith cymhleth, ac yn cefnogi busnesau i gadw gweithwyr profiadol yn y gweithle.

Sut mae’r menopos yn effeithio ar weithwyr yn y gwaith? 

Mae profiad pawb o’r menopos yn unigryw ac yn benodol i’r unigolyn, ond mae tua 40 o symptomau gwahanol yn cael eu hadrodd yn gyffredin yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r rhain yn amrywio o newidiadau yng nghylchred y mislif, i’r pyliau o wres a chwysu yn y nos a adroddir yn aml, i symptomau llai cyfarwydd fel gorbryder, iselder a cholli hyder.

Mae’r symptomau sy’n cael effaith benodol ar y gwaith hefyd yn amrywio, ond gallent gynnwys y canlynol:

  • Meddwl pŵl, problemau gyda’r cof neu drafferth canolbwyntio. Mae lefelau hormonau’n newid yn effeithio ar weithrediad gwybyddol, sy’n golygu y gall fod yn anodd cofio enwau neu eiriau penodol, neu’n anodd cadw at gadwyn meddwl benodol. Efallai y gwelwch bobl yn stopio ar ganol brawddeg neu’n dweud geiriau gwahanol i’r rhai y disgwylir iddynt eu dweud, yn lle gair na allant ei gofio.
  • Pyliau o wres – Mae lefelau hormonau sy’n newid hefyd yn effeithio ar barth thermoniwtral ein cyrff, sef sut rydym yn rheoleiddio ein tymheredd mewnol. Mae llawer yn profi teimlad o wres, sy’n dechrau ar waelod y corff ac yn symud i fyny, ac yn aml yn dangos arwyddion o fod yn boeth ac yn chwyslyd, ond heb unrhyw achos penodol. Gall pyliau o wres achosi embaras, fod yn anghyfforddus ac arwain at fethu canolbwyntio, colli hyder neu achosi gorbryder.
  • Tarfu ar gwsg – Gall hyn ddigwydd naill ai oherwydd pyliau o wres neu chwysu yn y nos sy’n amharu ar batrymau cwsg arferol neu oherwydd newidiadau hormonaidd sy’n effeithio ar ansawdd ein cwsg. Gall hyn achosi teimladau o bendro, diffyg egni a thrafferth canolbwyntio.
  • Mwy o straen, gorbryder neu hwyliau isel. Mae lefelau estrogen sy’n gostwng yn effeithio ar sut rydym yn rheoleiddio’r hormon straen, cortisol, sy’n golygu y gallwn deimlo dan straen yn haws nag o’r blaen neu gael trafferth gyda hwyliau ansad, gorbryder ac iselder.
  • Gorbryder yn ymwneud â’r toiled neu wastad eisiau bod yn agos at doiled. Gall mislifoedd trwm neu annisgwyl yn ystod y perimenopos achosi gorlif yn ystod cyfarfodydd hir. Gall y newidiadau hormonaidd hyn hefyd wanhau llawr ein pelfis, gan achosi i ni bi-pi yn amlach neu gyda mwy o frys nag o’r blaen. Efallai y byddwch yn sylwi ar weithwyr angen mwy o egwyliau cysur yn ystod cyfarfodydd hir neu aros ar eu heistedd wrth i bobl adael fel y gallant lithro allan unwaith y bydd pawb arall wedi gadael.
  • Colli hyder – gall newidiadau hormonaidd wneud i ni amau ein hunain yn gyson. Efallai y byddwch yn sylwi ein bod yn gwirio pethau dwywaith neu deirgwaith cyn eu cymeradwyo, neu’n eu pasio ymlaen i rywun arall ac yn poeni mwy am y pethau bach.
  • Poen yn y cymalau – gall ein lefelau hormonau sy’n newid hefyd effeithio ar ein hesgyrn a’n cymalau, gan achosi mwy o boenau nag o’r blaen. Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol neu newid dyletswyddau ar y rhai sy’n gweithio mewn proffesiynau mwy corfforol wrth iddynt symud drwy gyfnod pontio’r menopos.

Sut allwn ni gefnogi gweithwyr sy’n mynd trwy’r menopos?

Un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i gefnogi gweithwyr yw creu amgylchedd agored a chefnogol, lle mae pawb yn cael eu hannog i siarad am y menopos a heriau bywyd eraill heb feio na barn. Mae cael diwylliant cefnogol nid yn unig yn cefnogi’r menopos, ond hefyd yn galluogi’r rhai sydd â chyflyrau iechyd eraill neu heriau mewn bywyd i estyn allan a chael y cymorth sydd ei angen arnynt i aros mewn gwaith. Mae hefyd yn rhyddhau ein hegni meddwl ar gyfer tasgau mwy cymhleth yn y gwaith gan nad ydym yn gyson yn cuddio symptomau neu’n poeni am gael pwl o wres annifyr o flaen cydweithiwr!

Gall creu amgylchedd cefnogol fod yn heriol, yn enwedig os oes diwylliant sefydledig. Weithiau mae dechrau gyda pholisi menopos penodol yn rhoi rhywbeth pendant i staff gyfeirio ato, efallai gallai cael uwch reolwr benywaidd yn siarad yn agored am ei phrofiadau helpu i ddechrau’r sgyrsiau pwysig hynny, neu efallai mai cynnig hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o’r menopos yw’r catalydd. Bydd yn dibynnu ar faint, anghenion a diwylliant presennol eich sefydliad.

Mae cymorth menopos arferol yn y gweithle yn aml yn cynnwys y canlynol:

    • Creu diwylliant cefnogol sydd ddim yn bwrw bai
    • Galluogi gweithwyr i weithio’n hyblyg (o fewn polisïau presennol) er mwyn iddyn nhw reoli eu symptomau’n effeithiol
    • Cael polisi menopos penodol sy’n defnyddio polisïau presennol
    • Rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r menopos i’r holl weithwyr, ni waeth eu hoedran, rhywedd neu lefel yn y sefydliad
    • Rhoi hyfforddiant ar gael sgyrsiau sensitif
    • Rhoi lle i drafod y menopos yn agored, lle gall aelodau gefnogi ei gilydd
    • Cynnwys y menopos fel rheswm posib am absenoldeb oherwydd salwch mewn systemau adrodd am salwch
    • Cynnwys y menopos fel cyflwr hirdymor mewn polisïau absenoldeb oherwydd salwch (os oes pwyntiau sbarduno penodol ar gyfer absenoldeb)
    • Cyfeirio at/cynnwys cymorth menopos cynhwysfawr yn eich rhaglen buddion i weithwyr (os oes gennych un)
    • Cynnig addasiadau rhesymol i’r rhai sy’n mynd drwy’r menopos, er enghraifft:
    • Darparu ffaniau a/neu gael ystafelloedd lle gellir rheoli’r tymheredd
    • Darparu toiledau cyfforddus gyda lle i newid/glanhau yn ôl yr angen
    • Rhoi mynediad at ddŵr yfed oer
    • Darparu iwnifformau priodol (os oes gennych iwnifform) – defnyddiau ysgafn, haenog, ansynthetig neu rhai sy’n tynnu chwys oddi wrth y corff sydd orau
    • Darparu digon o iwnifform ar gyfer newidiadau yn ystod y diwrnod gwaith os oes angen (os oes gennych iwnifform)

Bydd penderfynu pa fesurau yn union i’w defnyddio’n dibynnu ar faint eich sefydliad, y math o waith dan sylw ac anghenion eich gweithwyr. Weithiau, y lle gorau i ddechrau yw gofyn i’r unigolyn beth fyddai o’r budd mwyaf iddo neu pa gymorth sydd ei angen arno i reoli ei symptomau a ffynnu yn y gwaith. Cofiwch y bydd pa fesurau bynnag y byddwch chi’n eu cyflwyno nid yn unig o fudd i’r rhai sy’n mynd trwy’r menopos, ond i lawer o weithwyr eraill hefyd. Mae cael mesurau ar gael i bawb yn helpu i greu diwylliant gweithle cefnogol i bawb, fel y gallwn ni i gyd ganolbwyntio ar ffynnu yn y gwaith.

Eisiau darganfod mwy?

Os hoffech chi wybod mwy am Menopos, p’un a ydych chi’n mynd trwy’r peth eich hun neu eisiau cynnig cymorth i rywun yn y gwaith, mae RCS yn cynnig sesiynau hyfforddi ymwybyddiaeth Menopos 2 awr ar-lein. E-bostiwch wellbeing@rcs-wales.co.uk neu ffoniwch 01745 336442 i gael y dyddiadau hyfforddi nesaf. Gallwn hefyd drefnu cwrs ar gyfer eich tîm yn unig, neu raglen wedi’i theilwra i ddiwallu’ch anghenion; cysylltwch i drefnu sgwrs anffurfiol.

Gwrandewch ar ein Podlediad Menopos

Rydym hefyd wedi recordio podlediad ar y Menopause, gallwch wrando arno ar ein tudalen podlediadau yma.