Atgyfeirio gweithwyr at Wasanaethau Cymorth amgen
Os oes gan eich cyflogwr Raglen Cymorth i Weithwyr, fel Adran Iechyd Galwedigaethol neu gynlluniau gofal iechyd preifat, argymhellwn eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth hwnnw i gael cymorth. Os nad yw eich cyflogwr yn cynnig gwasanaethau cymorth i weithwyr, gweler isod ein taflenni ffeithiau ynghyd â manylion cyswllt sefydliadau a allai eich cynorthwyo.
Cymorth corfforol
Mae’r GIG yn cynnig gwasanaethau ffisiotherapi. Gallwch atgyfeirio eich hun at y gwasanaethau hyn, heb orfod cysylltu â’ch meddyg teulu. I gael gwybodaeth am Ffisiotherapi a’r modd y gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau, edrychwch ar wefan y GIG. https://111.wales.nhs.uk/physiotherapy/.
PWY I’W GALW MEWN ARGYFWNG
Nid yw gwasanaeth RCS yn wasanaeth cymorth iechyd meddwl brys, ac ni allwn gynorthwyo pobl sydd angen cymorth ar unwaith.
Os ydych chi’n teimlo eich bod am geisio cyflawni hunanladdiad, os ydych wedi niweidio’ch hun yn ddifrifol (neu ar fin gwneud), neu os oes angen cymorth meddygol brys arnoch, peidiwch â llenwi’r ffurflen hon – dylech ffonio 999.
- Y GIG am gymorth iechyd meddwl brys drwy ffonio GIG Cymru ar 111 a dewis OPSIWN 2
- Mae’r C.A.L.L. Llinell gymorth ar 0800 132 737 neu ewch i https://callhelpline.org.uk, i gael cymorth iechyd meddwl 24/7
Able Futures
Mae Able Futures yn cynorthwyo pobl yng Nghymru, Lloegr a’r Alban sy’n gweithio ac yn byw gydag anawsterau iechyd meddwl. Cewch ragor o wybodaeth ar https://able-futures.co.uk/cymraeg.
Taflenni ffeithiau
Mae RCS wedi llunio’r taflenni ffeithiau hyn a all helpu i’ch atgyfeirio at wasanaethau cymorth amgen: