Arwain ar gyfer lles yng ngweithle heddiw.

Beth mae arweinyddiaeth dda yn ei olygu i chi? Mae un peth yn sicr, rydym wedi dod ymhell ers dull o arwain ‘y dyn mawr’ (er na wnaeth pawb ohonyn nhw dderbyn y nodyn). Gall arweinwyr ddylanwadu cymaint ar brofiad gweithiwr, a’u hysbryd hefyd. Does dim ond yn rhaid i chi edrych ar wefan adolygu cyflogwr Glassdoor i weld hyn ar waith. Mae lles yn y gweithle’n dirywio, gydag ond 22% o weithwyr yn ffynnu yn eu rolau¹. Mae gorweithio ar gynnydd. Yn flaenorol rydym wedi archwilio sut i ddod yn hapusach yn y gwaith, ac yn yr erthygl hon byddwn yn edrych ar rôl arweinwyr o fewn lles, a’r effaith y gallant ei gael ar gydnerthedd a pherfformiad tîm.

Fy enw i yw Emma, rwy’n Seicolegydd Busnes, Darlithydd a Hyfforddwr Gweithredol cymwysedig, gyda diddordeb arbennig yn seicoleg arweinyddiaeth, hyfforddiant a lles. Os ydych chi’n arwain pobl, bydd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi. A hyd yn oed os nad oes gennych chi gyfrifoldeb arweinyddiaeth ffurfiol, fe wnewch ganfod digon yma o hyd i gefnogi eich lles eich hun.

Beth am fynd i’r afael â’r eliffant yn yr ystafell

Un o’r pethau sy’n codi’i ben amlaf dro ar ôl tro yn fy ngwaith gyda thimau ac arweinwyr sy’n cael effaith ar berfformiad, ac yn y pen draw, ar les, yw ymdeimlad o fod wedi datgysylltu. “Maen nhw’n gyfeillgar iawn, ond dydyn nhw jest ddim yn deall” meddai rhywun wrthyf i yr wythnos ddiwethaf am eu pennaeth gwasanaeth, oedd yn teimlo’n rhwystredig nad oedd eu rheolwr yn gallu gweld y realiti oedd yn wynebu timau ar y rheng flaen gorfforaethol. Mae cyflogwyr eisiau perfformio, maen nhw eisiau gwneud y gwaith yn dda, a theimlo boddhad, ond maen nhw hefyd yn cael eu llesteirio gan rwystrau sy’n eu gadael yn teimlo’n eithriadol o lluddedig a phenisel (mwy ar hyn yn nes ymlaen). Rydym yn gweithio mewn amgylcheddau sy’n gynyddol gymhleth, gyda phwysau’n cynyddu a llai o adnoddau. Mae’n dalcen caled i arweinwyr, does dim dwywaith amdani. Y peryg yw, y gallan nhw gau i mewn ar eu hunain. Maen nhw’n ofni siomi felly maen nhw’n rhoi’r gorau i wrando ar wybodaeth sy’n rhedeg i’r gwrthwyneb i’w cynllun ac yn ceisio rheoli a strwythuro eu heriau i sicrhau deilliannau. Mae hon yn strategaeth ddealladwy, ond un na ellir yn y pen draw ei chyflawni, a pho hiraf mae’n parhau yna y mwyaf o bobl sy’n dioddef, yn llosgi allan neu’n gadael. Peidiwch â gadael i hynny ddigwydd i chi! Darllenwch ymlaen i edrych ar beth sy’n bosib ei wneud.

Mae angen gallu rhedeg ras hir, nid mynd ar wib.

Ydych chi’n teimlo eich bod yn treulio’ch amser yn mynd o’r naill gyfarfod i’r llall, wastad yn delio gydag ebyst, tasgau a phethau eraill sy’n cymryd eich amser? Tra gall hyn deimlo’n beth iachus, cymhellol yn y tymor byr mae’r cyflwr fod o dan bwysau trwm yn symbylu cortisol ac adrenalin, sy’n golygu bod cael eich amlygu i hyn am ormod o amser yn ei gwneud hi’n anoddach i gadw i ganolbwyntio, i fod yn gadarn ac yn optimistaidd. Mae hefyd yn effeithio ar hormonau teimlo’n dda serotonin a dopamin. Yn fwy na hynny, fel arweinydd, bydd pobl yn edrych tuag atoch chi fel esiampl o sut dylien nhw ddefnyddio’u hamser. Gall gwneud sawl peth ar unwaith deimlo fel pe baech chi’n bod yn hynod gynhyrchiol ond mae ymchwil yn dangos mai’r hyn rydych chi’n ei wneud mewn gwirionedd ydi newid rhwng tasgau yn eithriadol o gyflym. Pam mae hynny’n beth gwael? Wel, mae’n ddrwg gen i orfod dweud wrthoch chi ond mae gwaith ymchwil gafodd ei wneud gan Dr Glenn Wilson yn Sefydliad Seicoleg Prifysgol Llundain wedi darganfod bod ymyriadau cyson yn arwain at ostyngiad o 10 pwynt mewn IQ; gostyngiad is nag ysmygu mariwana.² Gwell i mi adael yr ystadegyn brawychus yna a symud ymlaen .…
Yn ei lyfr arloesol, Thinking Fast and Slow, mae Daniel Kahneman yn egluro’r ddwy ffordd y gallwn ni wneud dewisiadau; meddwl yn reddfol yn gyflym a meddwl yn rhesymegol yn araf deg, a sut allwn ni gael ein baglu gan y ffyrdd cyntaf yma yn feddyliol. Fel y dywed Kahneman, mae datrys problemau cymhleth yn golygu gwaith meddwl, felly mae ein hymennydd ni’n cymryd y ffordd rwyddaf pan rydym wedi blino neu’n teimlo dan bwysau, gan amharu ar ein barn. Y datrysiad? Derbyn bod yna wastad ormod o bethau i’w gwneud a bod yr heriau’n gymhleth. Arafu. Cynlluniwch eich gwaith. Ymddiriedwch yn y ffaith y bydd gan bobl (gan gynnwys chi) ddatrysiadau a syniadau os ydych chi’n cynnig gofod meddwl adfyfyriol. Ceisiwch annog ffyrdd o ddatgloi posibiliadau a meddylfryd ffres, drwy ofyn i chi eich hun a’ch timau am adborth, gan gynnwys faint ydych chi’n gallu amseru llwyth gwaith rhag gorlwytho. Gwnewch hyn yn eitem reolaidd ar agenda eich cyfarfod tîm os yn bosib.

Byddwch yn oruchwyliwr amser pobl

A sôn am gyfarfodydd, os ydych chi’n gwneud un peth yr wythnos hon (yn ogystal â darllen yr erthygl hon), rwy’n awgrymu’n gryf eich bod yn edrych ar eich y sgwrs gan Google, ‘The surprising science of meetings’ gan Dr Steven Rogelburg.   Mae ganddo safbwyntiau hynod ddiddorol am sut i ddefnyddio gwyddor cyfarfodydd (ydi, mae hynny’n rhywbeth go iawn), gan gynnwys cyfarfodydd sefyll ac amser tawel i daflyd syniadau er mwyn cynhyrchu mwy o syniadau arloesol a chreadigol, ac yn y pen draw treulio llai o amser mewn cyfarfodydd, ac all hynny ond bod yn beth da. Fe wna’ i rannu’r un darn o waith ymchwil yma sydd wir yn amlygu traweffaith ar les cyfarfodydd gwael: Dros wythnos, mae’r tîm ymchwil wedi gofyn i weithwyr roi eu barn ar faint o gyfarfodydd maent wedi’u mynychu y diwrnod hwnnw, gan roi marc am sut roedden nhw’n teimlo ar ddiwedd y diwrnod hwnnw. Fe wnaeth y cydberthyniad (annisgwyl, o bosib) ddatgelu bod gweithwyr yn mynd adref yn teimlo’n flinedig a heb nerth ar ddyddiau pan roedd llawer o gyfarfodydd, ac mai ychydig iawn o ymdeimlad o fod wedi llwyddo oedd ganddynt,  A bod ganddynt fwy o waith i’w wneud nawr. Ac roedd hyn yn digwydd i’w gweithwyr gorau! Os ydych chi’n gallu adnabod y senario hwn yn eich gweithle chi, fel arweinydd y cyfarfod, ydych chi’n gallu bod yn fwy bwriadus gydag amser pobl? Fel yr un sy’n cynnal y cyfarfod, ydych chi’n galllu dod ag egni da, gosod naws a gwirio i weld sut mae lles pobl? Darllenwch sgwrs Rogelburg³ am gynghorion ymarferol os ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy.

Canolbwyntio ar wasanaeth 

Mae yna bethau gwirioneddol erchyll yn digwydd o amgylch y byd. Mae’n rhaid i mi fod yn onest gyda chi a dweud wrthych chi bod ysgrifennu’r erthygl hon wedi cymryd dwywaith yr amser mae’n ei gymryd fel arfer gan fy mod i wedi ymgolli cymaint ac wedi fy nigalonni cymaint gan yr erchyllterau diweddaraf yn Gaza.  Eisteddais a syllu’n fyd ar fy sgrin am amser eithaf hir, heb wybod beth i’w ysgrifennu. Roedd gen i galon drom. Beth ddylien ni ei wneud? Roedd y cyfan yn mynd â mi yn ô l at ddechrau rhyfel Wcráin, ac ymuno â chyfarfod uwch reolwyr ar-lein y bore wedi i mi fod yn edrych ar danciau Rwsia’n rolio mewn i Wcráin. Roedd awyrgylch dawel yn y cyfarfod. Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Gweithredol oedd yn arwain y cyfarfod un neu ddau o sylwadau od ac anaddas am bêl-droed ac yna, pan wnaeth cydweithwyr ddechrau siarad am y poen meddwl roedden nhw’n ei ddioddef (ac roedd gan rai deulu yn y rhanbarth), cawsant eu ceryddu’n hallt a dywedwyd wrthynt am fwrw ymlaen gyda phethau. Roedd hyn yn eithaf anhygoel. Wnaeth yr arweinydd ddim sylwi ar hwyliau pobl o gwbl. Fyddai hi ddim wedi golygu llawer i gydnabod yr emosiwn yn yr ystafell, a fyddai wedi caniatáu i beth cefnogaeth ac empathi ar y cyd gael eu mynegi. Mae bod yn gydnerth yn ffordd o roi cefnogaeth fel tîm – mae ein cryfder yn y rhwymau sydd rhyngom ni, nid oddi mewn i ni.

Gall ymdeimlad o gael ein llethu neu ddiffyg grym ein troi ben i waered i gyflwr mae seicolegwyr yn ei alw’n ‘rhewi gweithredol’, lle mae’n teimlo’n anodd meddwl yn iawn, neu yn wir i fod wedi’ch cymell i wneud unrhywbeth o gwbl. Gall arweinyddiaeth sy’n gwasanaethu helpu. Prif nodwedd arweinyddiaeth sy’n gwasanaethu (Greenleaf, 1970) yw ymddwyn yn foesol ac o fewn moesoldeb. Mae yna bedair elfen, sef grymuso, adeiladu perthnasoedd, llunio gweledigaeth a goruchwyliaeth. Mae’r model hwn yn ein hatgoffa mewn ffordd ddefnyddiol bod arweinyddiaeth yn rhywbeth rydych chi’n ei wneud, yn hytrach na’r hyn rydych chi. Berf ydi o, nid enw.  Mae Tim Daley, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC wedi siarad llawer ynghylch goruchwyliaeth yn ddiweddar, yn wyneb yr holl bynciau llosg sydd wedi bod ynghlwm wrth y sefydliad. Pan mae arweinwyr yn gwneud hyn mewn ffordd dda, maen nhw’n gosod seiliau ar gyfer diwylliant caredig, cynhwysol. Mae’r gweithredoedd yn syml. Rydych chi’n gwybod beth ydyn nhw eisoes. Dewch i adnabod eich tîm, deall yr hyn maen nhw’n ei boeni amdano a beth sy’n eu hysgogi. Byddwch ar gael. Wnewch chi ddim cael popeth yn iawn bob amser, ond byddwch yn creu’r amodau cywir ar gyfer cydnerthedd cryf a pherfformio’n dda. Yn bennaf oll, sylwch sut mae’r hwyliau.

Gwnewch le ar gyfer Adferiad Rhagweithiol

Bod dan straen a gorweithio yw’r problemau mwyaf mewn gweithleoedd modern. Nid yw’n realistig disgwyl i bobl roi’r perfformiad uchaf un yn gyson. Tra ein bod yn gwybod hyn, mae ein cynlluniau ar gyfer cyflawni yn aml yn disgwyl rhywbeth gwahanol. Cynhwyswch ddigon o amser yn y cynllun. Ceisiwch reoli egni pobl, yn ogystal â’u hamser. Peidiwch â gadael iddyn nhw daro wal a llosgi allan. Mae athletwyr yn gyfarwydd gyda’r cysyniad hwn, ac maen nhw’n ei wneud o oherwydd ei fod yn eu gwneud nhw’n gryfach. Gellir priodoli’r un egwyddorion i waith. Yr hyn sy’n ei wneud hyd yn oed yn fwy rhagorol yw bod adferiad rhagweithiol fel arfer yn ymwneud â rhan arall o’ch ymennydd, gan danio creadigrwydd ac ambell wreichionen. Mae adferiad rhagweithiol yn bwrpasol ac yn atgryfhaol, ac yn strategol hyd yn oed. Byddwch yn parhau i fod yn gweithio ond nid yn gwthio eich hun i’r un graddau.

Dyma sut i fynd ati i’w wneud. Yn gyntaf, gofynnwch i chi eich hun, ‘o beth rydw i’n adfer?’ Dylai’r hyn rydych chi’n ei wneud nesaf fod yn ffurf ysgafnach o’r gweithgaredd hwnnw. Os ydych chi wedi gweithio ar brosiect (efallai gwella ansawdd neu roi systemau newydd ar waith) ydych chi’n gallu cynnig mentora rhan wahanol o’r busnes sy’n mynd drwy’r un peth? Bydd rhannu eich profiad gyda’ch pobl, ac yn bwysicaf oll, cynnig yr un cyfleoedd iddyn nhw fwy na thebyg yn ychwanegu gwerth mewn ffyrdd newydd a gwahanol, ac yn adfywio eich nerth yn y broses.

Yn gryno…

Dyw hi ddim yn hawdd bod yn arweinydd. Mae gennych chi gyfrifoldeb dros les seicolegol eich pobl, ac rwy’n gwybod nad ydych chi’n cymryd hynny’n ysgafn. Roedd theorïau arweinyddiaeth traddodiadol yn ein gorfodi i fod yn edrych i fyny (fel arfer mewn edmygedd llwyr) at Yr Arweinydd (theori’r dyn mawr eto) i gael yr holl atebion. Mae’n beth da bod llawer o waith ymchwil gwych sy’n dangos i ni nad dyma’r ffurf orau ar arweinyddiaeth ar gyfer gweithleoedd cymhleth a heriol heddiw. Mae perfformio’n dda a’r gallu i ddod yn ôl i gyflawni hyn yn gêm i’r tîm cyfan. Rydym angen goruchwyliwyr gofalgar sy’n gofalu am amser ac ynni pobl. Arweinyddion sy’n gallu gosod gweledigaeth, gadael i bobl chwarae i’w cryfderau, a gadael iddyn nhw ffynnu yn eu rôl.

Rwyf am orffen gyda’r sylw olaf yma. Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o lwyddiant y tîm Beicio Prydeinig, ond mae’n bosib nad ydych chi’n ymwybodol o’r stori gefndirol. Cyn 2002 doedd gan y tîm fawr ddim llwyddiant i’w henw. Roedd y syniad o anelu am y podiwm yn ormod, felly penderfynodd y Pennaeth Hyfforddi oedd newydd ei benodi, Syr Dave Brailsford, a ysbrydolwyd gan ei astudiaethau MBA a thechnegau gwelliant yn seiliedig ar broses, ddechrau meddwl am anelu am bethau bach, yn hytrach na phethau mawr. Po leiaf, y gorau, a dweud y gwir. Ynghyd â’i dîm, fe wnaethant ddadelfennu popeth roedden nhw’n gallu meddwl amdano sy’n gysylltiedig gyda chystadlu ar y beic, ac yna anelu i wella pob elfen o 1%. O fewn pum mlynedd, yng Ngemau Olympaidd Beijing, fe wnaeth y tîm ennill 70% o’r medalau oedd ar gael, ac aethant ymlaen i gyflawni’r un llwyddiant yng Ngemau Olympaidd Llundain. On’d ydi hynna’n gysur? Fe wnaethon nhw ddechrau gyda’r nod lleiaf y gallent ei ddychmygu ac wedyn, bŵm! Wrth gwrs, rwy’n gorsymleiddio at bwrpas y naratif ond yr hyn rydw i am i chi gymryd ohono yw hyn: Anghofiwch am berffeithrwydd; canolbwyntiwch ar ddilyniant, a chyfyngwch ar y gwelliannau. Felly, pa newidiadau bychain allech chi ddechrau arnyn nhw ar eich cyfer chi a’r bobl rydych chi’n eu harwain yr wythnos hon?

Cyfeiriadau

¹ Adroddiad Lles Gwaith Byd-Eang Indeed 2024: ¹ Adroddiad Lles Gwaith Byd-Eang Indeed 2024:

² Mae gormod o wybodaeth yn creu mwy o niwed i’ch gallu i ganolbwyntio na mariwana: ‘Info-mania’ dents IQ more than marijuana | New Scientist

³ The Surprising Science of Meetings, Dr. Steven Rogelberg: The Surprising Science of Meetings | Dr. Steven Rogelberg | Talks at Google (youtube.com)