Roeddem yn falch iawn o fod wedi cael ein cyhoeddi fel enillydd ‘Gwobr Llesiant’ Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn 2020. Gwnaed y cyhoeddiad yn Nigwyddiad Dathlu Busnesau Bach Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yng Nghaerdydd ym mis Mawrth. Mae’r wobr yn cydnabod busnesau sy’n creu amgylchedd i’w gweithwyr lwyddo drwy ddangos eu hymrwymiad i iechyd a llesiant eu gweithlu. Mae RCS nawr yn mynd ymlaen i rowndiau terfynol y DU, sydd wedi’u gohirio’n ddiweddar tan 2021.