Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus o 12 mis, lle cafodd 500 o unigolion gymorth ledled Gogledd Cymru, mae ein rhaglen beilot Gallaf Weithio bellach wedi’i hymestyn am chwe mis arall, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’r estyniad i’w groesawu o ran pryder ynghylch effeithiau economaidd ac iechyd meddwl pandemig COVID-19.

Arweinir y rhaglen cymorth cyflogaeth, y cyntaf o’i math i’w chyflwyno ar raddfa fawr yng Nghymru, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae pobl sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i swydd neu aros mewn swydd oherwydd anawsterau iechyd meddwl yn cael eu hannog i fanteisio ar raglen Gallaf Weithio, sy’n rhoi cymorth dwys gan arbenigwyr cyflogaeth a gweithwyr iechyd proffesiynol.