Braf iawn oedd clywed y cyhoeddiad ar 22 Tachwedd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates o hwb ariannol gwerth £6.2 miliwn gan yr UE a Llywodraeth Cymru ar gyfer RCS i barhau i ddarparu’r gwasanaeth Cymorth mewn Gwaith am bedair blynedd arall. Dyfarnwyd £3.2 miliwn arall i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU), sy’n darparu’r gwasanaeth yn ne Cymru.

Dywedodd Mr Skates, a oedd yn ŵr gwadd mewn digwyddiad i ddathlu degawd o lwyddiant RCS ym mwyty 1891 yn Theatr y Pafiliwn, y Rhyl: “Amcangyfrifir bod y gost i’r economi yng Nghymru o salwch sy’n gysylltiedig â gwaith yn £500 miliwn y flwyddyn ac rydym yn gwybod bod cyflogwyr BBaChau a’u gweithwyr yn dioddef yn llawer gwaeth o ganlyniad i absenoldeb salwch yn y gwaith.

“Dyma un o’r rhesymau pam fod ein Contract Economaidd newydd yn annog busnesau i hyrwyddo iechyd da yn y gweithle.

“I gefnogi’r uchelgais hon ymhellach, dw i’n falch o gyhoeddi £9.4 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y Rhaglen Cymorth mewn Gwaith. Dw i’n gobeithio y bydd yn helpu i atal pobl sydd â chyflyrau iechyd cyffredin rhag colli gwaith, a bydd hefyd yn annog busnesau i greu lleoedd gweithio iachach.”

Gan groesawu’r cyllid, dywedodd Ali Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol RCS: “Rydym yn falch iawn o’r newyddion fod y gwasanaeth yn cael ei ymestyn hyd at Ragfyr 2022, fydd yn rhoi’r cyfle inni barhau â’n gwaith o gefnogi gweithwyr a pherchnogion busnes i greu gweithleoedd iach, positif a chynhyrchiol.

“Mae’r Gwasanaeth Cymorth mewn Gwaith yn rhoi cymorth hollbwysig sy’n helpu i gadw gweithwyr mewn gwaith wrth iddynt wynebu heriau i’w hiechyd, gan ddod â manteision enfawr i bobl gyflogedig a hunan-gyflogedig ac i’r gymuned fusnes yng ngogledd Cymru yn gyffredinol.”

Cafodd y gwasanaeth ei lansio ar draws Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd a Môn yn 2015 ac mae wedi ei anelu’n bennaf at weithwyr busnesau bach a chanolig. Mae’n darparu cymorth sy’n canolbwyntio ar waith ac ymyriadau therapiwtig cyflym ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl a chorfforol ysgafn i gymedrol, er mwyn helpu gweithwyr i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb salwch. Mae hefyd yn cefnogi busnesau i ddatblygu eu strategaethau ar gyfer lleihau absenoldebau a gwella llesiant yn y gweithle.

Hyd yn hyn, mae gwasanaeth RCS wedi cefnogi 3,400 o weithwyr i ddychwelyd i’r gwaith neu i gynhyrchiant llawn ac oddeutu 1,800 o BBaChau i leihau effaith absenoldeb salwch ar fusnes.

Ar draws Cymru, bydd y cyllid ychwanegol yn ehangu’n sylweddol y gwasanaeth i gefnogi hyd at 12,000 o bobl, ac oddeutu 2,500 o fusnesau i adeiladu gweithle iach. Mae’n cynnwys £2.2 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru, a £7.2 miliwn o gyllid yr UE drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, o dan ei raglen Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.