Yn 2009, cefnogodd RCS Ymyrraeth Cyfiawnder Cymunedol Cymru (CJIW) i wireddu prosiect uchelgeisiol i ddatblygu darn o dir fferm ar gyrion y Rhyl. Fe wnaeth y ‘prosiect tyfu’ ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd mewn perthynas â gweithgareddau a dysgu yn ymwneud â chyflogaeth, ym maes garddwriaeth / amaethyddiaeth yn bennaf, ond hefyd yn y meysydd manwerthu a marchnata cysylltiedig. Roedd y prosiect yn allweddol wrth helpu cyfranogwyr i gymryd rhywfaint o gamau cyntaf i gynnal eu hiechyd meddwl, gan osgoi iselder, datblygu ffyrdd iachach o fyw a gwneud cyfraniad gwirfoddol i’r gymuned.