Rhwng 2008 a 2011, trefnodd RCS raglen o ddigwyddiadau ymgysylltu a dysgu pwrpasol a oedd wedi’u cynllunio i gyrraedd pobl a oedd wedi ymddieithrio o ddysgu ffurfiol. Ariannwyd y rhaglen gan Lywodraeth Cymru. Gwnaethom gynllunio a chyflwyno’r rhaglen gyda phartneriaid allweddol a oedd â chysylltiadau agos â’n grwpiau cleientiaid targed. Helpodd y rhaglen dros 600 o gyfranogwyr i ddatblygu eu huchelgeisiau, eu hyder a’u rhwydweithiau cymdeithasol, yn ogystal â chefnogi 75 o bobl i mewn i waith, bron i 300 i ennill cymwysterau sy’n canolbwyntio ar waith, a 164 i symud ymlaen i addysg bellach.