O 2012 hyd 2014, bu i ni dreialu gwasanaeth brocera swyddi newydd unigryw i gynorthwyo i gysylltu cwsmeriaid lleol sy’n chwilio am swyddi gyda chyflogwyr o fusnesau bach i ganolig. Darparodd Drysau Agored becyn o gymorth ymarferol gan gynnwys cyngor annibynnol am yr ystod o gynlluniau cymhorthdal cyflog, gwasanaeth cyfateb i gysylltu cyflogwyr ag ymgeiswyr addas a chymorth mewn gwaith i gynorthwyo â chadw swydd.  Yn achos cwsmeriaid a oedd yn chwilio am waith ac a oedd ymhellach oddi wrth y farchnad lafur ac angen ychydig o gymorth ychwanegol, gwnaethom yn siŵr ein bod yn eu rhoi mewn cysylltiad â’r sefydliadau priodol i’w helpu i gael yr hyder neu’r hyfforddiant oedd ei angen arnynt i symud ymlaen. Erbyn diwedd y cynllun peilot dwy flynedd, roedd Drysau Agored wedi cefnogi 411 o bobl i gyflogaeth, 46 o bobl i gyfleoedd gwirfoddoli, a 285 o bobl i hyfforddiant.