Mae sgiliau darllen, ysgrifennu a rhifedd gwael yn aml yn rhwystr i bobl sy’n chwilio am waith neu sydd eisiau symud ymlaen yn y gwaith. Rhwng 2009 a 2011, gweithiodd RCS gyda Sgiliau Sylfaenol Cymru, Coleg Llandrillo y Rhyl a Phêl-droed yn y Gymuned Rhyl (RFITC) i greu ‘Saethwyr’ (strikers), canolfan ddysgu arloesol yng Nghlwb Pêl-droed y Rhyl lle’r oedd Coleg Llandrillo y Rhyl a RFITC yn cyflwyno sgiliau sylfaenol trwy gyfrwng pêl-droed. Gwnaethom hefyd weithio mewn partneriaeth â Choleg Llandrillo y Rhyl a Sgiliau Sylfaenol Cymru i greu ‘Rhowch Sglein ar Eich Sgiliau’, rhaglen o ddysgu sgiliau sylfaenol wedi’i chynnwys mewn cyrsiau hyfforddi byr mewn manwerthu, gweinyddu busnes a TG, adeiladu, peirianneg fodurol, gofal cymdeithasol ac arlwyo.