Ar ôl colli fy chwaer a gorfod ysgwyddo ychwaneg o gyfrifoldebau’n gofalu am fy rhieni oedrannus, fe ddioddefodd fy iechyd meddwl. Aeth pethau ar chwâl ac aeth bywyd beunyddiol yn drech na fi. Felly, bu’n rhaid imi wneud penderfyniad anodd i adael fy swydd flaenorol fel Nyrs Diogelu Iechyd.

Erbyn hynny, roeddwn i wedi colli hyder yn llwyr a doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud nesaf. Awgrymodd fy Therapydd Galwedigaethol y dylwn gysylltu â WorkWell Conwy. Rydw i mor falch fy mod wedi cysylltu, oherwydd cefais yr union help roeddwn i ei angen.

Roedd Debbie, fy arbenigwr cyflogaeth, yn wych o’n cyfarfod cyntaf. Wnaeth hi ddim rhuthro, treuliodd amser yn fy helpu i ystyried fy nghamau nesaf. Eisteddodd y ddwy ohonom i lawr a siarad am y pethau a oedd yn fy rhwystro a’r pethau roeddwn i eisiau eu gwneud. Buddiol iawn fu edrych ar fy sgiliau trosglwyddadwy, oherwydd doeddwn i ddim eisiau gweithio yn y maes iechyd eto. Aethom ati i ailysgrifennu fy CV, ac fe wnaeth Debbie fy annog i ymgeisio am swyddi lleol. Fe wnaeth hi hyd yn oed roi hyder imi bicio i siopau lleol gyda fy CV i weld a oedd swyddi gwag ar gael. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai gennyf yr hyder i wneud hynny eto.

Diolch i’r cymorth a gefais gan WorkWell, llwyddais i gael swydd fel goruchwyliwr arholiadau, ac yna cefais swydd ran-amser mewn busnes teuluol lleol bach. Dim ond diwrnod yr wythnos, weithiau mwy, ond dyna’r union beth roeddwn i ei angen i’m helpu i ddod ataf fy hun.

Mae WorkWell yn wasanaeth gwych, ac mae ffordd Debbie o ymgysylltu a delio â chyflogadwyedd wedi fy helpu’n fawr i symud ymlaen. Roedd Debbie yr un fath yn union â chyfaill, ac mae ei chefnogaeth a’i hanogaeth wedi fy ngrymuso i symud ymlaen gyda ’mywyd.

Rydw i’n llawer mwy hyderus nawr, mae fy hyder wedi dychwelyd. Diolch WorkWell.