Prosiect pum mlynedd yw Go Gwyrdd gyda’r bwriad o ysbrydoli pobl ifanc sy’n wynebu anfantais i ystyried gyrfaoedd yn y sector gwyrdd.
P’un a ydych yn berson ifanc yn chwilio am swydd a wnaiff wahaniaeth, neu’n gyflogwr sy’n awyddus i helpu i ddatblygu talent leol, gall Go Gwyrdd eich helpu.
Mae’r rhaglen yn benodol i bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed ledled Gogledd Cymru sy’n anabl, byddar, niwrowahanol, â chyflyrau iechyd meddwl neu anghenion ychwanegol, neu sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol.
Ariennir y Prosiect ‘Go Gwyrdd’ drwy’r Gronfa Asedau Segur, sy’n cael ei darparu drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.