Cwnsela a Hyfforddi

Cymorth personol er mwyn eich helpu i symud yn nes at eich nodau personol a gwaith. Two women sitting on couch in therapy session

Mae ein gwasanaethau cwnsela a hyfforddi newydd yn gallu cael eu teilwra’n union i gefnogi pobl sy’n chwilio am waith a gweithwyr newydd. Gall ein therapïau siarad eich helpu i ddatblygu strategaethau ymdopi, gwella eich hunan-barch a datblygu gwytnwch ar gyfer y gwaith. Gall hyfforddi eich helpu i osod nodau a gweithio tuag at gamau y gellir eu rhoi ar waith ar gyfer twf personol a phroffesiynol.

Mae ein cefnogaeth yn effeithiol wrth helpu pobl gydag ystod o gyflyrau iechyd meddwl gan gynnwys gorbryder, iselder, PTSD, galar, pryder cymdeithasol, a straen. Mae’r rhan fwyaf o’n cleientiaid yn derbyn rhwng chwech a deg sesiwn o gefnogaeth unai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein, a hynny yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Mae ein tîm mewnol yn cynnwys cwnselwyr gwirfoddol a myfyrwyr MSc Cwnsela drwy ein partneriaeth hirsefydlog gyda Phrifysgol Bangor. Rydym hefyd yn gweithio gyda gweithwyr cyswllt proffesiynol ledled Cymru.

Cysylltwch â ni i ddysgu mwy am y cymorth rhad ac am ddim yn eich ardal, neu i ofyn ynghylch prynu’n gwasanaethau ar gyfer chi’ch hun, eich gweithwyr neu eich cleientiaid.

Mae ein cleientiaid yn rhoi adborth cadarnhaol yn gyson ynghylch sut mae’n cymorth cwnsela wedi’u helpu i ddod yn fwy parod am waith:

Dywedodd 84% fod eu gallu i weithio wedi gwella o ganlyniad i’r ymyriad.

Dywedodd 60% o’n cleientiaid eu bod yn teimlo’n barod am gyflogaeth ar ôl cael cymorth.

Dywedodd 84% fod eu hiechyd wedi gwella o ganlyniad i’r ymyriad.