Pave

Gwireddu recriwtio cynhwysol

Mae recriwtio cynhwysol yn gwneud synnwyr o safbwynt busnes. Mae’n ysgogi rhagor o amrywiaeth yn y gweithlu, yn cynnig safbwyntiau a chipolygon newydd, ac yn gwella cynhyrchiant. Drwy wneud cyfleoedd cyflogaeth ar gael yn fwy rhwydd i bawb, mae’n helpu i roi pawb ar yr un lefel a meithrin cymdeithas decach.

Mae RCS yn gweithio gyda’r stiwdio ddylunio, Tropic, i greu platfform recriwtio newydd ac arloesol lle y gall ymgeiswyr gysylltu â chyflogwyr cefnogol a chynhwysol. Dewch yn rhan o ‘Pave’.

Beth yw Pave?

Mae Pave yn blatfform recriwtio ac yn ymgyrch. Ei nod yw cysylltu cyflogwyr blaengar â chronfa dalent amrywiol, gan wireddu buddion recriwtio cynhwysol. Bydd y wefan yn canolbwyntio yn y dechrau ar swyddi a chyflogwyr ledled gogledd Cymru.

Mae dyluniad y safle wedi’i lywio gan sgyrsiau â chyflogwyr a cheiswyr gwaith. Mae’n cynnwys disgrifiadau o swyddi mewn iaith syml a phroses geisio bwrpasol sydd â hygyrchedd wrth ei gwraidd.

Bydd cyflogwyr sydd wedi’u hachredu gan Pave yn dangos eu hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant drwy eu proffil cyflogwr a byddant yn cyhoeddi a rheoli eu swyddi gwag eu hunain. Bydd Pave hefyd yn darparu adnoddau i gefnogi cyflogwyr ac ymgeiswyr drwy’r broses recriwtio.

Caiff Pave ei ariannu drwy Gronfa Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru.

 

Cysylltwch â ni

Ymholiad cyffredinol

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Oriau agor yw Dydd Llun – Iau 9.30am – tan 4.30pm, Dydd Gwener 9.30am tan 4pm.